'Diolch Aled': Cynnal yr Wŷl Cerdd Dant yn yr Wyddgrug er cof am Aled Lloyd Davies
'Diolch Aled': Cynnal yr Wŷl Cerdd Dant yn yr Wyddgrug er cof am Aled Lloyd Davies
Bydd Gŵyl Aled, sef yr Wŷl Cerdd Dant eleni, yn cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.
Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal yn y dref er cof am y diweddar Dr Aled Lloyd Davies, cerddor ac arbenigwr yn y maes, fu farw yn 2021 yn 90 oed.
Fe gafodd yr wyl ei chynnal ddiwethaf yn y dref ym 1998, gyda Dr Aled yn gadeirydd ar y pwyllgor gwaith bryd hynny.
Roedd hefyd yn gadeirydd ar ddwy Eisteddfod Genedlaethol a gafodd eu cynnal yn Yr Wyddgrug ym 1991 a 2007.
Fe gafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru yn 2004.
Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Wener, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Hywel Wyn Edwards: "Aled Lloyd Davies wrth gwrs, byw yma yn Yr Wyddgrug ers blynyddoedd lawer.
"Bu Aled farw deuddydd cyn ei benblwydd yn 91 oed tair blynedd a hanner yn ôl bellach.
"Roeddem ni yn yr ardal wedi methu talu teyrnged i Aled a dweud diolch yn fawr wrtha fo am yr holl bethe ma' 'di neud nid yn unig i'r Wyddgrug a Sir y Fflint ond i Gymru benbaladr, a dyma'n cyfle ni felly mi gawson ni'r ŵyl i ddod yma yn 2024 a dyma ni, 'dan ni wedi cyrraedd."
'Dod at ein gilydd'
Bethan Bryn a Mair Carrington Roberts fydd llywyddion y dydd, gyda Beryl Lloyd Davies, Selwyn Evans, Mair Selway, Elwyn P Roberts, Mary Roberts a Goronwy Wynne yn llywyddion anrhydeddus.
Nic Parry, Rhian Parry a Dei Tomos fydd yn arwain yn ystod y diwrnod.
Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Ysgol Bryn Coch.
Dywedodd Trysorydd y Pwyllgor Gwaith, Anne Evans: "Ma'r pobl leol wedi bod yn ffantastig o feddwl bo' ni 'mond nepell o'r ffin, 'dan ni gyd wedi dod at ein gilydd, cael nifer o weithgareddau a mi ddo'th y gronfa leol mewn dim o dro a dwi'n reit falch bo' ni'n gallu deud hynny."