Newyddion S4C

Ioan Cunningham yn gadael ei swydd fel prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru

Ioan Cunningham

Mae Ioan Cunningham wedi ymddiswyddo fel prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) ddydd Gwener eu bod wedi cytuno, ar y cyd â Cunningham, i ddod â'i gyfnod yn y swydd i ben wedi tair blynedd.

Daw wedi i URC ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal, lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i ddiwylliant yr undeb.

Roedd tîm Ioan Cunningham hefyd ar rediad gwael ar ôl ennill pedair allan o’u 11 gêm yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ymunodd Cunningham â’r tîm hyfforddi fel prif hyfforddwr dros dro yn Hydref 2021 cyn cael ei benodi’n barhaol fis yn ddiweddarach gyda’r nod o arwain y tîm i Gwpan y Byd 2025.

Yn hwyrach ymlaen yn 2021, dan arweinyddiaeth Cunningham, llwyddodd y tîm i gyrraedd y chwarteri yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd, er i’r tîm ennill un gêm yn unig a hynny o drwch blewyn yn erbyn yr Alban yng ngemau’r grŵp.

Daeth dechrau newydd yn 2022 wrth i 12 o chwaraewyr benywaidd gael cytundebau am y tro cyntaf, gan droi’r gêm rygbi menywod yn broffesiynol. 

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023 oedd uchafbwynt ei gyfnod wrth y llyw gyda’i dîm yn llwyddo i ennill tair o’r pum gêm gan guro Iwerddon, Yr Alban a’r Eidal, a gorffen yn drydydd.

Ym mis Medi eleni, cyhoeddodd yr Undeb eu bod wedi cynnig cytundebau dwy flynedd i 37 o chwaraewyr y tîm wrth baratoi at Gwpan y Byd flwyddyn nesaf yn Lloegr.

Mewn e-bost a welwyd gan y BBC, cafodd chwaraewyr eu bygwth gan y posibilrwydd y byddai’r tîm yn tynnu allan o’r WXV2 ac yn sgil hynny, Cwpan Rygbi’r Byd 2025. 

Cafodd y chwaraewyr cynnig terfynol o dair awr i arwyddo’r cytundebau, neu wynebu colli eu cytundeb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.