'Mwy na jest pêl-droed': Tîm o chwaraewyr â chyflwr Parkinson's yn mynd o nerth i nerth
'Mwy na jest pêl-droed': Tîm o chwaraewyr â chyflwr Parkinson's yn mynd o nerth i nerth
Yng Nghaerdydd, tîm Phoenix 681 FC ydy'r unig dîm o'i fath yng Nghymru i chwaraewyr â chlefyd Parkinson's.
Fe gafodd y tîm ei sefydlu yn 2019 gan dri oedd yn cynrychioli tîm Prydain mewn cystadleuaeth ryngwladol i ddioddefwyr y salwch.
Wrth siarad ar raglen Heno, dywedodd rheolwr y tîm Antony Evans: "Cyn Covid, roedd tua saith ohonom ni a nawr mae bron 30 ohonom ni, sydd yn chwerw-felys achos ma' Parkinson's Disease yn tyfu ar radd gyflymach nag unrhyw cyflwr niwrolegol yn y byd ar y foment.
681 ydy rhif cemegol dopamin, sef y cemegyn sydd ddim yn cael ei gynhyrchu yn ymennydd y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.
Fe gafodd Mr Evans ddiagnosis 10 mlynedd yn ôl yn 41 oed.
"O'dd e'n braidd yn sioc ond fath o relief hefyd a ma' hwnna'n swnio'n od ond ro'n i'n gwybod bod rhywbeth lan," meddai.
"Pan ges i'r diagnosis, roedd rhywbeth gyda fi wedyn i gweithio gyda i neud y siwrne yn well na ma' pobl weithie yn meddwl."
'Mwy na jest pêl-droed'
Ychwanegodd Garen Williams: "Y tri pheth sydd yn lladd pobl sy'n byw gyda Parkinson's ydy unigedd cymdeithasol, diflastod a diffyg gweithgaredd felly rydym ni'n ceisio cael y bobl sy'n byw gyda'r cyflwr allan o'u cartref ac i fewn i amgylchedd diogel a chwarae pêl-droed."
Ychwanegodd Antony Evans: "Mae'r tîm mor bwysig i fi, ma' pawb yn bwysig i bawb.
"Nid jest y pêl-droed sydd yn cadw ni gyd yn iach, yn cadw ni gyd yn symud, ond ma'r banter o ansawdd reit dda hefyd."
Dywedodd Richie Ellis, sydd hefyd yn aelod o'r tîm: "Fe wnaethon ni sylwi yn eithaf sydyn ei fod yn fwy na jyst pêl-droed."
'Hybu y gymuned Parkinson's'
Yn ddiweddar, fe aeth y tîm allan i gystadlu mewn cystadleuaeth ryngwladol, sef Cwpan Ray Kennedy, cyn chwaraewr Lerpwl ac Arsenal ac enillydd Cwpan Cymru gydag Abertawe.
Ym 1984, fe gafodd ddiagnosis o Parkinson's, ac yna fe ddaeth yn ymgyrchydd brwd i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
"Aethom ni i Copenhagen am y tro cyntaf gan gyrraedd y ffeinal. Yn Lerpwl y flwyddyn diwethaf, aethom ni i'r semis a ni jest wedi dod nôl o Norwy nawr a getho ni i'r semi-finals 'to," meddai Antony Evans.
"Be sy'n bwysig nawr i Gymru a chymuned Parkinson's yw bo' ni'n rhoi bid mewn i hosto'r Ray Kennedy Cup yn 2025.
"Ma'r agwedd cywir 'da ni, ni yma heno yn chwarae pêl-droed ac yn mwynhau cwmni ein gilydd a ni mo'yn jyst dangos i'r byd beth ma' Cymru yn gallu neud o ran hybu y gymuned Parkinson's nid jest yng Nghymru ond dros Ewrop hefyd."