Newyddion S4C

Apêl o'r newydd ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn farw mewn afon

08/11/2024

Apêl o'r newydd ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn farw mewn afon

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi apêl o'r newydd er mwyn ceisio darganfod amgylchiadau marwolaeth dyn 37 oed a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn afon fis Rhagfyr 2023. 

Cafodd Kyle Vernon ei ddarganfod yn afon Ogwr Fawr ger Ffordd y Fynwent yng Nghwm Ogwr, Sir Pen-y-bont ar Ogwr. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Jones: "Rydym yn parhau i geisio deall amgylchiadau marwolaeth Kyle, ac rydym wedi bod yn siarad â phobl yn yr ardal, ac archwilio deunydd camerau cylch cyfyng - CCTV.  

"Rydw i'n cyhoeddi fideo sy'n dangos Kyle am 20:59 nos Wener, 15 Rhagfyr. Fel y gwelwch, mae e'n gwisgo hwdi coch tywyll a throwsus tracwisg llwyd tywyll.

"Rydym angen llenwi'r bwlch rhwng y cyfnod hwn a'r adeg pan gafodd Kyle ei ddarganfod yn yr afon, ychydig dros filltir i lawr y cwm. Byddai modd cerdded rhwng y ddau leoliad mewn rhwy hanner awr.   

"Mae fy nhîm yn ceisio darganfod symudiadau Kyle yn yr oriau cyn iddo gael ei ddarganfod yn yr afon.  

"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl a oedd yn ardal Ffordd y Gogledd, ar lwybrau ger Ysgol Gynradd Cwm Ogwr, Ffordd Saville ac Ystâd Ddiwydiannol  Penllwyngwent wedi 20:00 nos Wener 15 Rhagfyr."

Dywedodd yr heddlu fod eu meddyliau yn parhau gyda theulu Kyle Vernon, a'u bod yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi'r cyfeirnod 2300426636.

Llun Heddlu De Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.