Newyddion S4C

Ruth Jones: 'Mae cymeriad Nessa yn byw tu mewn i mi'

08/11/2024

Ruth Jones: 'Mae cymeriad Nessa yn byw tu mewn i mi'

Mae'r actor a'r awdur Ruth Jones wedi dweud bod cymeriad Nessa Jenkins yn "byw tu mewn i mi".

Wrth siarad ar raglen Jonathan nos Iau, dywedodd ei bod yn troi at ei chymeriad yn y ddrama Gavin and Stacey ar adegau anodd.

"Mae'n od achos dw i'n rili dwli ar Nessa, a dw i'n credu bod ma hi'n byw tu mewn i mi," meddai.

"A pan ma problem 'da fi, like o sefyllfa anodd gyda rhywun, dw i'n gallu dweud, 'Oh love, back off!' Mae'n handi iawn."

Daw ei sylwadau wrth iddi drafod ffilmio'r bennod olaf erioed o Gavin and Stacey ym mis Medi.

Bydd y bennod olaf o'r ddrama gomedi gan y BBC, a ymddangosodd yn wreiddiol rhwng 2007 a 2010, yn cael ei darlledu Ddiwrnod Nadolig.

Ar ddiwedd y bennod ddiwethaf, roedd Nessa wedi gofyn i Smithy - sy'n cael ei chwarae gan James Corden - i'w phriodi, ond ni chafodd ateb.

"Dw i'n credu Gavin a Stacey ydi'r main characters, ond dw i'n credu bod pobol eisiau gwybod be sy'n mynd i ddigwydd gyda'r ffrindia', Smithy a Nessa," meddai.

"A dros y blynyddoedd dw i'n credu ma' pethe diddorol wedi digwydd gyda Smithy a Nessa, and yn y dechre o'n i mo'yn Smithy a Nessa i fod yn opposites ond efo lot o bethe in common, ac y point dechre i Nessa fel cymeriad yw ma hi'n canu 'Wild Thing' at everybody's wedding.

"Achos dyna fi, dw i'n canu 'Wild Thing' trwy'r amser - o'n i'n canu yn y pub yn Porthcawl wythnos diwetha!"

Yn y dyfodol, dywedodd Jones, sydd yn dysgu Cymraeg, ei bod eisiau creu "cymeriad dramatig" yn yr iaith ar gyfer S4C.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.