Newyddion S4C

Reform yn targedu etholiad y Senedd wrth ymgynnull yng Nghasnewydd

ITV Cymru
Nigel Farage Senedd Cymru

Mae arweinydd Reform, Nigel Farage wedi dweud fod ei blaid yn targedu etholiad y Senedd yng Nghymru yn 2026, gan dynnu sylw at arolwg barn sy'n awgrymu mai Reform fyddai'r drydedd blaid fwyaf poblogaidd, petai'r etholiad hwnnw yn cael ei gynnal nawr. 

Byddai hynny yn eu rhoi yn uwch na'r Ceidwadwyr.  

Mae cynhadledd Gymreig Reform yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd, ddydd Gwener, 8 Tachwedd.  

Yn ôl yr arolwg barn gan Survation, a holodd dros 2,000 o oedolion yng Nghymru, dywedodd 30% y bydden nhw yn pleidleisio dros Lafur, petai'r etholiad yn cael ei alw nawr. Roedd Plaid Cymru ar 21%, Reform ar 20%, y Ceidwadwyr ar 17%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% a'r Blaid Werdd ar 5%.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026.

Does gan Reform yr un sedd yn Senedd Cymru, a ni lwyddodd y blaid i gipio sedd yn Nghymru yn Etholiad Cyffredinol San Steffan yn 2024. 

Ond roedd Reform yn ail mewn 13 o etholaethau, gyda sawl sedd yng nghymoedd y de yn eu plith. 

'Cymru angen Reform'  

Bydd yr arweinydd Nigel Farage yn siarad yn y gynhadledd yng Nghasnewydd. Daeth yn Aelod Seneddol Clacton fis Gorffennaf. 

Bydd cadeirydd y blaid Zia Yusuf hefyd yn annerch y cynadleddwyr yn ogystal â'r Aelod Seneddol Lee Anderson.

Dywedodd Nigel Farage AS: "Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ymhen 18 mis. Mae'r arolwg newydd hwn yn dangos fod perfformiad Reform yn well na'r Ceidwadwyr, ac rydym ni ar 26% yn y Cymoedd. Dim ond Reform all herio Llafur.

"Mae pobl Cymru wedi cael eu siomi gan y Blaid Lafur am bron dri degawd bellach. Mae hanner yr etholwyr yn credu eu bod wedi ymdrin â'r Gwasanaeth Iechyd yn wael.   

"Mae ein cynhadledd yng Nghasnewydd heddiw yn nodi dechrau ein hymdrechion i gyflwyno dewis ffres. Mae Cymru angen Reform."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.