Newyddion S4C

Cyhuddo tri yn dilyn marwolaeth Liam Payne

08/11/2024
Liam Payne

Mae tri o bobl wedi’u cyhuddo yn dilyn marwolaeth cyn-aelod o'r band One Direction, Liam Payne, meddai'r awdurdodau yn Yr Ariannin.

Bu farw'r seren bop 31 oed ar ôl iddo syrthio oddi ar drydydd llawr gwesty'r Casa Sur yn Buenos Aires ar 16 Hydref.

Mae un o'r rhai oedd wedi bod gyda Payne wedi'i gyhuddo o adael person yn dilyn marwolaeth a chyflenwi cyffuriau, yn ôl Swyddfa’r Erlynydd Troseddol yno.  

Mae gweithiwr mewn gwesty a pherson arall hefyd wedi’u cyhuddo o gyflenwi cyffuriau. 

Dyw eu henwau ddim wedi eu cyhoeddi.

Diystyru 'hunan-niwed'

Yn ôl swyddfa'r erlynydd, maen nhw wedi diystyru "hunan-niwed" yn achos marwolaeth Liam Payne.

Dywedodd y datganiad fod tystiolaeth yn awgrymu iddo syrthio'n anymwybodol, neu'n rhannol anymwybodol.

 "Yn y cyflwr yr oedd ynddo, nid oedd yn gwybod beth roedd yn ei wneud nac yn ei ddeall", meddai.

Mae canlyniadau profion tocsicoleg wedi datgelu fod gan Liam Payne alcohol, cocên a meddyginiaeth gwrth-iselder yn ei gorff eiliadau cyn ei farwolaeth.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, meddai’r datganiad, gyda rhai o ddyfeisiadau Payne yn dal i gael eu dadansoddi.

Dywedodd fod swyddfa’r erlynydd wedi derbyn sawl tystiolaeth, ac wedi dadansoddi mwy nag 800 awr o fideo o gamerâu diogelwch a ffyrdd cyhoeddus.

Ychwanegodd fod yr ymchwiliad wedi datgelu "o leiaf bedwar cyflenwad o gyffuriau narcotig".

Yn ôl yr archwiliad post-mortem, bu farw Liam Payne o sawl anaf, a gwaedu mewnol ac allanol.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.