Mewnforio yn 'atal twf' y diwydiant bwyd yng Nghymru
Mae un o bwyllgorau Senedd Cymru wedi dweud bod y sector bwyd yng Nghymru yn cael ei atal rhag ffynnu yn sgil mewnforio bwydydd o wledydd eraill.
Dywedodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd y dylai mwy gael ei wneud i gefnogi’r sector bwyd yng Nghymru, a hynny drwy leihau faint o gynnyrch sy’n cael eu mewnforio i’r wlad.
Maen nhw’n dweud bod y broses o fewnforio cig o wledydd sydd ddim yn cydymffurfio â'r safonau amgylcheddol a llesiant y mae ffermwyr yng Nghymru yn eu dilyn, yn “cyfyngu ar dwf y sector prosesu bwyd yn ein gwlad".
Maen nhw bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i “gryfhau’r” sector prosesu bwyd ac i helpu busnesau lleol i ffynnu.
Yn ôl eu hadroddiad fe fyddai hynny’n creu cadwyni cyflenwi lleol cadarn, yn cynyddu diogelwch bwyd a chynaliadwyedd, ac yn helpu pobl i fwynhau bwyd o’u cymunedau eu hunain, meddai.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gallai gostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru fygwth dyfodol hirdymor y diwydiant cig coch ac maen nhw'n galw am fesurau i fynd i’r afael â hynny’n benodol.
'Blaenoriaethu'
Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig bod yna botensial i wneud “hyd yn oed rhagor er budd ein heconomi, ein hamgylchedd a’n cymunedau” drwy’r sector prosesu bwyd.
“Mae’n rhaid i lywodraeth nesaf Cymru greu strategaeth gyffredinol ar gyfer y system fwyd gyfan, cefnogi’r sector prosesu bwyd, a blaenoriaethu cynaliadwyedd a diogelwch bwyd.
“Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru hefyd fod â chynllun ar gyfer ein diwydiant prosesu cig.
“Mae angen llif cyson ar ladd-dai, neu heb hynny byddant yn cau. Efallai y bydd gostyngiadau pellach yn niferoedd y stoc byw yng Nghymru yn arwain at yr angen i ni lenwi’r bwlch drwy fewnforio cig o ansawdd is, sydd wedi profi safonau llesiant is ac wedi arwain at lefel uwch o garbon.”
Maent yn argymell mynd i’r afael â gostyngiad yn nifer y da byw drwy ystyried cyflwyno taliad y pen – a fyddai’n debyg i’r taliad premiwm lloi sugno gan Lywodraeth yr Alban – i annog twf mewn cynhyrchu cig eidion premiwm.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r Pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn i brosesu bwyd ac yn croesawu cyhoeddi ei adroddiad.
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru a byddwn yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor maes o law.”
Mae’r pwyllgor hefyd yn canmol rhai mentrau llwyddiannus gan y llywodraeth, gan gynnwys prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, sydd a’r nod o ddarparu mwy o lysiau organig mewn prydau bwyd ysgolion cynradd.
Dywedodd Dr Siobhan Maderson, o Gymdeithas y Pridd, wrth y Pwyllgor: “Gall cymorth cadarn gan Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o ehangu’r cynllun fel y bydd yn cyflawni ei nod fod 25% o’r holl fwyd yn ysgolion cynradd Cymru wedi’i gynhyrchu yn lleol ac organig erbyn 2030.”