Poeni am effaith y dreth etifeddiaeth wrth basio ffermydd i’r genhedlaeth nesaf
09/11/2024
Bydd newidiadau i’r dreth etifeddiaeth yn ei gwneud yn anoddach i deuluoedd gwledig yng Nghymru basio eu ffermydd ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, yn ôl un ffermwr.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Mae undebau amaethyddol wedi rhybuddio mai ychydig o ffermydd sydd werth llai na £1m oherwydd prisiau tir uchel, er nad yw ffermwyr yn gweld elw mawr.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gary Howells sy’n ffermio ar fferm Shadog yn Sir Gâr ei fod yn poeni am effaith y dreth wrth basio fferm i’r genhedlaeth nesaf.
“Dydy ffermwyr ddim yn gweld yr arian, rydyn ni yn edrych ar ôl a datblygu ffermydd ac yna’n cael y fraint o’i basio ymlaen,” meddai.
“Dwi’n ofni bydd gen i a fy mrawd fil treth ofnadwy o achos y dreth etifedd. Hyd nawr, mae ffermydd wedi bod yn saff yn y teulu.
“Mae’n bosib fydd y cenedlaethau nesa yn cael ffermydd wedi eu rhoi iddynt ynghynt, ond mae risg yn dod ‘da hynny.
“Mae angen sicrhau bod rhywun yn ddigon cyfrifol cyn rhoi’r pwysau o berchen fferm ar eu hysgwyddau."
Ychwanegodd y bydd colli ffermwyr teuluol yn ergyd i gymunedau gwledig ar draws Cymru.
“Mae ffermwyr yn rhoi gwerth amhrisiadwy i economïau cefn gwlad wrth gefnogi busnesau lleol - rydyn ni yn prynu wrth dros 100 o fusnesau,” meddai.
Os na fydd “hyder yn amaeth, bydd ffermwyr ddim yn gwario”.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1854580338766274789
‘Anodd iawn’
Dadl Llywodraeth y DU yw mai dim ond 28% o ffermwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y rheolau treth etifeddiant newydd.
Nod y dreth oedd atal pobol gyfoethog rhag prynu tir fferm er mwyn osgoi treth etifeddiant, medden nhw.
Dywedodd Gweinidog Amaeth Cymru, Huw Irranca-Davies bod y Canghellor wedi gorfod gwneud penderfyniad “anodd iawn”.
“Ond gadewch i ni weld ar y detail o’r proposals i ddeall beth yw’r impact gwir ar ffermio yng Nghymru,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
Dywedodd Dai Davies, arwerthwr gyda chwmni Evans Bros, ei fod yn wir fod buddsoddwyr yn prynu tir ar hyn o bryd fel bod ganddyn nhw ased yr oedd modd osgoi talu trethi arno.
Roedd yna bosibilrwydd mai effaith y dreth fydd gweld gostyngiad cyffredinol mewn gwerth tir, meddai.
Ond roedd hynny’n anodd ei ragweld.
“Byddai cadw’r rhyddhad eiddo busnes wedi golygu y byddai ffermwyr sy’n amaethu wedi gallu parhau i dderbyn y rhyddhad tra bod buddsoddwyr tir yn gorfod talu’r trethi ychwanegol,” meddai wrth Newyddion S4C.
‘Ansicrwydd’
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), Ian Rickman y dylai’r rhyddhad mae’r Llywodraeth wedi ei ddarparu ar asedau amaethyddol ers 1984 barhau.
Roedd wedi “sicrhau yn nad yw’r rheiny sy’n etifeddu tir yn cael eu llethu gan drethi pan fydd ffermydd teuluol yn trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf,” meddai.
“Mewn cyfnod heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion hyn yn ychwanegu at ansicrwydd pellach i fusnesau amaeth sy’n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd wrth ddiogelu’r amgylchedd,” meddai.