Teyrngedau i ddwy fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Barri
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddwy fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Barri ddydd Sadwrn.
Bu farw Madeline Elaine Brooks, 85 oed, a Beverly Pugsley, 69 oed, yn y gwrthdrawiad ffordd ym Mro Morgannwg.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Madeline Elaine Brooks ei bod yn "fam, mam-gu, gor-fam gu a modryb a gafodd ei geni ym Mhenarth ac wedi byw yn y Barri am dros 65 mlynedd.
"Roedd hi'n ddynes fywiog ac yn llawn egni.
"Roedd hi o hyd yn actif iawn, yn caru garddio ac wastad yn gwneud rhywbeth - siopa, ymweld â llefydd, mynd ar wyliau."
Ychwanegodd teulu Beverly Pugsley mewn teyrnged iddi ei bod yn "ddynes dawel a oedd yn caru ei swydd, gan weithio i'r BBC am ran helaeth o'i bywyd mewn rolau gwahanol ac wedyn fel ymchwilydd ar gyfer sawl rhaglen deledu."
Mae dau ddyn, 24 a 67 oed, yn parhau yn yr ysbyty.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, Sarjant Gareth Jones-Roberts: "Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn gyrru yn yr ardal rhwng 13:30 a 13:50 brynhawn Sadwrn ac a allai fod â gwybodaeth i'n helpu yn yr ymchwiliad i gysylltu â ni."