Newyddion S4C

'Ffrind i bawb': Teyrnged i ddynes o'r Rhyl a fu farw mewn llofruddiaeth honedig

Catherine Flynn

Mae teulu dynes o'r Rhyl a gafodd ei llofruddio wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Catherine Flynn yn 69 oed ar 25 o Hydref yn dilyn ymosodiad yn ei thŷ ar Ffordd Cefndy.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol lle bu farw ac fe gafodd Dean Mark Albert Mears, 33 oed, o Fae Cinmel ei gyhuddo o lofruddiaeth a byrgleriaeth gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedodd teulu Catherine Flynn bod ganddi'r "wên fwyaf ar ei hwyneb ac yn helpu pobl eraill pob tro".

"Roedd Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer anhygoel, a hefyd yn fam a ffrind da i nifer o bobl eraill," medden nhw.

"Roedd hi'n caru ei theulu mwy nag unrhyw beth.

"I'w merch Natasha a'i mab-yng-nghyfraith Liam, roedd hi'n fwy 'na mam. Roedd hi'n golygu bob dim iddyn nhw.

Ychwanegodd y teulu: "Roedd cartref nain yn gartref i ni gyd, roedd ei chartref yn glud ac yn groesawgar.

"Fyddai hi pob tro yn helpu pwy bynnag roedd hi'n gallu ac yn berson prydferth ym mhob ffordd.

"I bawb oedd yn ei hadnabod, roedd ganddi'r wên fwyaf ar ei hwyneb ac yn ffrind i bawb. Roedd ei drws pob tro yn agored i unrhyw un am sgwrs a phaned.

"Mae ei marwolaeth wedi gadael twll mawr yn ein bywydau, a fydd byth yr un peth."

Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn parhau ac maen nhw'n galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.