Galw am ddulliau newydd o gasglu data er mwyn cael darlun gwell o gyflwr y Gymraeg
Mae angen datblygu dulliau newydd o gasglu data er mwyn cael darlun gwell o gyflwr yr iaith Gymraeg a faint sy'n ei defnyddio o ddydd i ddydd, yn ôl arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mewn adroddiad newydd, dywedodd arbenigwyr bod angen dulliau newydd er mwyn cael "darlun cynhwysfawr o gyflwr y Gymraeg a'i defnydd ohoni".
Ar hyn o bryd y cyfrifiad, sydd yn cael ei gyhoeddi bob 10 mlynedd, yw’r brif ffynhonnell ar ddata ieithyddol o ran nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg.
Dywedodd Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth y gallai dull newydd fod o gymorth wrth lunio polisïau ieithyddol.
“Er bod y cyfrifiad yn ffynhonnell bwysig o ran darparu ystadegau am y nifer sy’n medru siarad Cymraeg, mae angen cofio mai unwaith pob degawd y caiff ei gynnal ac nad yw’r data yn dweud dim wrthym ynglŷn â ble a pha mor aml mae pobl yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd," meddai.
“Mae angen sicrhau felly bod data yn cael ei gasglu’n fwy rheolaidd mewn perthynas â’r Gymraeg a rhoi llawer mwy o bwyslais ar geisio mesur y defnydd o’r iaith er mwyn datblygu darlun mwy crwn.
"Fe fydd hwn yn helpu i roi polisïau ac ymatebion priodol yn eu lle."
'Dealltwriaeth mwy trylwyr'
Mae'r adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn dweud bod nifer o fylchau yn yr ystadegau presennol am y Gymraeg.
Eu hargymhelliad yw bod data o ansawdd ar ddefnydd iaith a’i hyfywedd (vitality) yn cael ei gasglu’n fwy rheolaidd ac mewn ffordd fwy systematig nag sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Byddai hyn yn cefnogi ymdrechion i adfywio’r iaith ac yn rhoi sail gadarnach ar gyfer cynllunio ieithyddol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, yn ôl yr ymchwilwyr.
Dywedodd aelod o’r tîm ymchwil, Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol, ei fod yn gyfle amserol i archwilio dulliau newydd.
“Er mwyn cael sail gadarn ar gyfer cynllunio polisïau i hybu’r Gymraeg, mae angen dealltwriaeth fwy trylwyr o sefyllfa’r Gymraeg a chryfhau’r pwyslais ar gasglu data ar ddefnydd iaith," meddai.
"Mae hyn yn gyfle amserol felly i werthuso pa ddata sy’n allweddol er mwyn deall sefyllfa’r Gymraeg ac mae’n hollbwysig nad yw unrhyw newid yn gwanhau ein dealltwriaeth am sefyllfa’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn y dylai'r datblygiad greu trafodaeth newydd.
"Dyma gyfle i feddwl o’r newydd am ba ddata sydd ei angen arnom ni a sut mae manteisio ar botensial technoleg i roi data amserol, awdurdodol ac arloesol i ni am y Gymraeg a’i siaradwyr," meddai.