Ail yn erbyn trydydd yn y Cymru Premier JD wrth i'r Seintiau Newydd herio Hwlffordd
Fe fydd y tîm sydd yn ail yn wynebu'r tîm sydd yn y drydydd safle yn yr unig gêm y Cymru Premier JD ddydd Sul, wrth i Hwlffordd deithio i Groesoswallt i wynebu'r Seintiau Newydd.
Y Seintiau Newydd (2il) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sul – 14:30
Wedi pum buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair mae’r Seintiau Newydd wedi dringo i’r 2il safle ac mae’r pencampwyr bellach yn dynn ar sodlau’r ceffylau blaen.
Y Seintiau yw prif sgorwyr y gynghrair eleni gyda chewri Croesoswallt yn sgorio tair gôl ym mhob gêm ar gyfartaledd.
Ond ar ôl colli 2-1 draw yn Nulyn nos Iau yn erbyn eu gwrthwynebwyr yng Nghyngres Europa UEFA, Shamrock Rovers, ni fydd gan y gŵyr o Groesoswallt lawer o amser i baratoi am her y tîm o Sir Benfro.
Mae Hwlffordd wedi mynd ar rediad o wyth gêm gynghrair heb golli am y tro cyntaf ers i’r fformat 12-tîm gael ei gyflwyno yn 2010.
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau yn y gynghrair hyd yma ar ôl cadw naw llechen lân mewn 15 gêm ac ildio dim ond chwe gôl.
Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu saith gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd ac yn anelu i agor bwlch rhyngddyn nhw a’r Adar Gleision.
Byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn eu codi uwchben 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Hwlffordd: ✅͏➖✅➖✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru