Newyddion S4C

Carcharu dyn am ddwyn fan dynes y tu allan i Ysbyty Gwynedd

07/11/2024
sion williams.png

Mae dyn wedi cael ei garcharu am ddwyn fan dynes y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn achosi gwrthdrawiad yn ddiweddarach.

Ymddangosodd Sion Williams o Fangor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau. 

Plediodd yn euog i ladrata, o yrru heb yswiriant, methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad a methu ag adrodd am wrthdrawiad. 

Cafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis. 

Ychydig cyn 11:00 ar 11 Gorffennaf, roedd dynes yn disgwyl yn ei fan y tu allan i Ysbyty Gwynedd pan agorodd Williams ei drws yn sydyn.

Nid oedd y ddynes yn ei adnabod, ond fe gydiodd yn ei gwallt a'i llusgo ar lawr gan ei tharo yn ei hwyneb ac anafu ei phen-glin. 

Aeth ymlaen wedyn i ddwyn ei fan a gyrru i ffwrdd o'r ysbyty. 

'Effaith sylweddol'

Daeth gweithiwr brys i helpu'r ddynes, ac roedd angen iddi gael triniaeth ar ei phen-glin yn dilyn y digwyddiad. 

Ychydig wedyn, derbyniodd yr heddlu alwad 999 yn adrodd am wrthdrawiad ger Beddgelert. 

Roedd Williams wedi gwrthdaro gyda wal a rhedeg i ffwrdd, gan adael y fan yn y ffordd. 

Derbyniodd yr heddlu alwad arall ychydig yn ddiweddarach wedi adroddiadau fod Williams wedi ceisio cael mynediad i dŷ dynes 74 oed, gan ei gadael hi wedi ei dychryn. 

Daeth swyddogion o hyd i Williams ychydig wedi 14:00 lle gafodd ei arestio a'i gludo i'r ddalfa. 

Dywedodd yr Ymchwilydd Stephen Williams: "Roedd hon yn drosedd gas ar ddynes fregus oedd ar ei phen ei hun yng ngolau dydd ar dir ysbyty lle dylai hi fod wedi bod yn ddiogel.

"Fe gafodd yr ôl-effeithiau effaith sylweddol arni hi a'i theulu, ac fe fydd yn cymryd amser hir iawn iddyn nhw symud ymlaen o weithredoedd treisgar Williams."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.