Newyddion S4C

'Dewch a fe adref': Cymro yn pledio am ryddhau ei frawd-yng-nghyfraith sy'n wystl yn Gaza

ITV Cymru 07/11/2024
Gwystl Hamas ITV

Mae Steve Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr yn pledio am ryddhad ei frawd-yng-nghyfraith, Eli Sharabi, sy’n cael ei gadw yn Gaza fel gwystl gan Hamas.

Cafodd chwaer Steve, Lianne, a’i dwy nith, Noiya a Yahel, eu llofruddio gan Hamas ar 7 Hydref llynedd, tra bod gŵr ei chwaer, Eli, wedi ei gipio a’i gadw fel gwystl yn Gaza.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dydy Steve ddim wedi clywed am gyflwr Eli ac mewn apêl newydd dywedodd wrth ITV Cymru:  “Dydyn ni ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd i Eli."

“Dydyn ni ddim yn gwybod os ydy e’n fyw neu’n farw, dydyn ni ddim yn gwybod os ydyn ni’n ceisio dod ag ef adref i ail-ddechrau ei fywyd neu’n ceisio cael ei gorff adref i roi angladd urddasol iddo, dyna’r ‘limbo’ dw i ynddi.”

Fe adawodd chwaer Steve, Lianne, Pen-y-bont ar Ogwr 20 mlynedd yn ôl i fynd ar flwyddyn dramor i Israel, lle bu cwrdd â’i gŵr Eli.  

Image
Llun teulu
Eli gyda Lianne a'u dwy ferch, Noiya a Yahel (Llun teulu)

Wrth gofio diwrnod yr ymosodiad ar y teulu, dywedodd Steve: “Roedden ni yn credu mai ymosodiad taflegrau weddol normal oedd hyn - ymosodiad oedden nhw’n gyfarwydd gyda dros y blynyddoedd.

“Ond daeth yn amlwg mai ymosodiad corfforol oedd hyn a chafodd fy chwaer a fy dwy nith, oedd yn 16 oed a 13 oed, eu llofruddio o fewn eu tŷ a chafodd fy mrawd-yng-nghyfraith, Eli, ei gymryd yn wystl i Gaza.

“Rwyf wedi bod yn ymgyrchu’n ddi-ddiwedd ers hynny ac mae’n rhaid i mi ail-wynebu â’r galar dros fy chwaer a fy nwy nith”

Image
Steve Brisley
Steve Brisley

Yn dilyn ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Hydref y llynedd, fe wnaeth Israel lansio ymosodiad milwrol enfawr ar Gaza.

Yn ôl gweinidogaeth iechyd Hamas, ers dechrau’r rhyfel mae dros 41,000 o bobl - y mwyafrif yn sifiliaid, yn fenywod a phlant - wedi cael eu lladd yn Gaza.

Wrth drafod y marwolaethau, dywedodd Steve: “Dw i’n cydymdeimlo gyda phobl ddiniwed, fel fy chwaer a’n cyfnitheroedd cafodd eu llofruddio.

"Mae yna lawer o bobl ddiniwed yn marw pob dydd o ganlyniad i weithredu milwrol yn Gaza, ac mae hyn yn drasiedi.”

“Dw i’n credu y byddai unrhyw un sy’n meddwl yn normal eisiau i bawb fyw mewn heddwch”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.