Newyddion S4C

Cipolwg y tu fewn i un o adeiladau mwyaf adnabyddus Abertawe wrth iddo ail-agor ei ddrysau

07/11/2024
Theatr y Palas

Mae un o adeiladau mwyaf adnabyddus Abertawe wedi ail agor ei ddrysau ddydd Iau ar ôl cael ei ailwampio fel rhan o brosiect gwerth dros £10 miliwn. 

Mae Theatr y Palas, sy’n 136 oed, wedi bod ar gau ers blynyddoedd mewn dwylo preifat nes i gyngor y ddinas benderfynu ei adfer.

Ac mae’r tu fewn i’r adeilad chwe llawr “eiconig” bellach wedi cael ei drawsffurfio yn dilyn ymgyrch adnewyddu sydd wedi ceisio cynnal hanes yr adeilad a adeiladwyd yn yr 1880au. 

Mae rhai o hen nodweddion yr adeilad yn parhau yn rhan ohono o hyd, gan gynnwys balconi haearn, brics gwreiddiol o Lynebwy a theils llawr gwreiddiol hefyd.

Image
Islawr
Islawr Theatr y Palas

 

Ond mae’r adeilad yn gartref i nodweddion modern hefyd sydd yn cynnwys siop goffi fydd ar agor i’r cyhoedd. 

Mae’r waliau wedi’u haddurno gan waith celf Jeff Phillps o Abertawe, gan gynnwys darn amryliw sy’n coffau Blitz Abertawe ym mis Chwefror 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

Image
Caffi

'Edrych ymlaen'

Mae Theatr y Palas bellach yn cael ei ddefnyddio gan gwmni Tramshed Tech yn y gobaith o ddenu busnesau newydd sydd eisiau gofod, a hyfforddiant sgiliau busnes.

Mae Tramshed Tech eisoes yn cynnal gofodau busnes yng Nghasnewydd, Caerdydd a'r Barri. 

Dywedodd cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr Tramshed Tech, Louise Harris, ei bod yn “addo” y bydd y gwagle bellach yn “hwb arloesol.” 

Image
Tramshed Tech
Louise Harris

Mae’r DJ Matt Hutchinson yn cofio nosweithiau “arbennig” yn Theatr y Palas ac roedd yn rhan o ymgyrch blaenorol i geisio adnewyddu’r adeilad. 

Roedd y cyn diplomydd Denise Davey hefyd yn rhan o grŵp Friends of Palace Theatre, a hithau’n dweud ei bod yn “edrych ymlaen” at fywyd newydd yr adeilad. 

Adfer

Cafodd Theatr y Plas ei hadeiladu ym 1888 am ychydig llai na £10,000, sef tua £1m yn arian heddiw.

Mae wedi bod yn neuadd gerddoriaeth ac yna dros y blynyddoedd yn neuadd bingo a chlwb nos.

Mae'r gwaith adfer gwerth £10 miliwn a mwy wedi'i ariannu gan y cyngor, gyda chymorth grant o £4.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru. 

Roedd tua 60 o weithwyr wedi bod ar y safle ar adegau prysur ers i'r gwaith ddechrau dair blynedd yn ôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.