Croesawu oedi penderfyniad ar gynllun fferm solar anferth ar Ynys Môn ar ôl i 500 wrthwynebu
Mae gwleidyddion sy’n cynrychioli Ynys Môn wedi croesawu oedi penderfyniad ar gynllun ar gyfer fferm solar fawr gan ddweud bod 500 o bobl wedi gwrthwynebu.
Dywedodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, eu bod wedi oedi’r broses o benderfynu ar y datblygiad 3,700 acer am gyfnod o chwe wythnos.
Maen nhw wedi gofyn i’r datblygwr Wylfa Green Ltd, sy’n rhan o gwmni Enso Energy, am ragor o wybodaeth am fferm solar posib Alaw Môn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n bosibl y bydd cyfnod arall o oedi ac ymgynghori â’r cyhoedd cyn gwneud penderfyniad ar y cynlluniau.
Fe fyddai’r fferm solar yn gorchuddio 2% o dir yr ynys, ac yn cael ei hadeiladu ar dir ffermio yn bennaf.
Mae cwmni Enso Energy wedi dweud y bydd y parc yn pweru 33,935 o dai ac yn creu 160MW o ynni solar adnewyddadwy.
Dywedodd yr aelodau o Senedd San Steffan a Senedd Cymru dros yr ynys, Rhun ap Iorwerth a Llinos Medi, eu bod nhw’n croesawu’r oedi.
Mewn datganiad dywedodd y ddau: “Rydym yn croesawu’r newyddion am oedi yn y broses benderfynu ar fferm solar Alaw Môn ar Ynys Môn.
“Mae hyn yn ganlyniad i waith caled a pharodrwydd cymunedau Ynys Môn i gymryd rhan yn y broses gynllunio a mynegi eu pryderon.
“Roedd yn amlwg o’r nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad - dros 500 o sylwadau unigol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru - bod y pryderon am y prosiect hwn yn sylweddol, ac nad yw’r prosiect arfaethedig yn dderbyniol.
“Mae’n rhaid i’r datblygwyr nawr ddychwelyd i’r bwrdd i ddarparu mwy o wybodaeth.
“Rydym yn eu hannog i ystyried pryderon sylfaenol, fel yr effaith negyddol ar y sectorau amaethyddol a thwristiaeth, y risgiau i ddiogelwch bwyd, a’r diffyg cyfleoedd economaidd a chyflogaeth yn lleol.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses ymgynghori - mae eich lleisiau wedi’u clywed.
“Mae angen yr un lefel o ymgysylltu wrth i ni agosáu at y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol ar gyfer fferm solar Maen Hir, sydd hyd yn oed yn fwy, ar 15 Tachwedd.”
'Atal pellach'
Mae Enso Energy wedi cael cais am ymateb gan y gwasanaeth newyddion democratiaeth leol.
Dywedodd y cwmni yn y gorffennol eu bod nhw “eisiau i gymaint o bobl â phosib” rannu eu barn ar y datblygiad.
Mewn llythyr a ysgrifennwyd at Wylfa Green Ltd, dywedodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ei fod “yn ystyried ei bod yn briodol atal y penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyflwyno gwybodaeth ychwanegol”.
Ychwanegodd y llythyr: “Felly mae’r cyfnod penderfynu ar y cais hwn yn cael ei ohirio gan gyfnod o chwe wythnos, h.y. bydd y cyfnod penderfynu’n ailddechrau ddydd Mercher, Rhagfyr 11, 2024.
“Yn dibynnu ar yr ymateb a dderbyniwyd mae’n debygol y bydd angen cyfnod atal pellach a fydd yn cynnwys amser ar gyfer cyfnod cyhoeddusrwydd ac ymgynghori mewn perthynas â gwybodaeth ychwanegol.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai yn addas cynnig sylw pellach ar y cais cynllunio.