Archesgob: Afonydd Cymru 'yn marw a dirywio'
Archesgob: Afonydd Cymru 'yn marw a dirywio'
Mae Archesgob Cymru wedi rhybuddio bod afonydd Cymru “yn marw a dirywio” ar drothwy uwch-gynhadledd i drafod y sefyllfa.
Yn ôl y Parchedicaf Andrew John mae angen clustnodi mwy o gyllid er mwyn gwella isadeiledd systemau yng Nghymru, gan alw ar Dŵr Cymru a’r Llywodraeth i wneud mwy.
Mae disgwyl bron i gant o bobl ddod ynghyd ddydd Iau a ddydd Gwener mewn uwchgynhadledd yng Nghaerdydd drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru i drafod yr “argyfwng afonydd”.
Mi fydd y gynhadledd yn ymgais i ddod a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd er mwyn creu maniffesto.
“Y gwir yw mae’n afonydd ni yn dirywio ac yn marw”, meddai’r Archesgob Andrew John.
“Os nad yda ni’n newid y ffordd ‘da ni’n delio a dŵr yn y maes amaeth a’r cwmnïau dŵr hefyd, mi fyddwn i’n gweld cynnydd mewn prisiau a hefyd yr holl awyrgylch yn dioddef”.
“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb mewn modd llawn hyder, gydag egni ac wrth gwrs gyda chyllid”.
Yn ôl ffigyrau fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau y llynedd (2023).
Mae hynny'n gyfystyr â thros 20% o'r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.
Ond yn ôl Dŵr Cymru, mae nhw'n buddsoddi cyllid sylweddol er mwyn diogelu afonydd a moroedd Cymru.
Ar eu safle trin yn Nhreborth, Bangor mae’r dŵr gwastraff yn cyrraedd, yn cael ei drin, ac yna'n cael ei ollwng i’r Fenai.
Ac yma mae Victoria Collier o’r cwmni yn esbonio maint y buddsoddiad newydd.
“Mae gynnon ni gynllun buddsoddi uchelgeisiol”, meddai.
“Rydym am fuddsoddi £4bn dros y 5 mlynedd nesaf efo £2.5bn o’r swm yna ar wella’r amgylchedd”.
“Un o’r heriau mwya i ni yw seilwaith sy’n heneiddio felly ‘da ni’n buddsoddi hefyd £1m i gynnal a chadw a uwchraddio y seilwaith”.
Mae hynny’n cynnwys cynllun gwerth tua £20m i ddatblygu cronfa storm newydd ym Mangor, fydd yn llenwi pan fydd tywydd garw, er mwyn osgoi llygredd yn gollwng i’r Fenai.
Mae’r cwmni'n disgwyl iddo leihau nifer y gollyngiadau o 87 i tua 10.
Yn yr un ddinas, mae gan Brifysgol Bangor un o’r adrannau mwyaf blaenllaw sy’n ymchwilio i lygredd mewn afonydd a moroedd Cymru.
“Mae’n her enfawr”, meddai'r Athro Prysor Williams o'r adran.“Mae’n her i fwy na jest un sefydliad, i un busnes neu un diwydiant”.
“Mae angen partneriaethau yn cyd weithio i ddod o hyd i atebion ar y cyd”.
Mae’r Athro Williams hefyd yn nodi bod gwaharddiad newydd bellach wedi dod i rym sy’n atal ffermwyr rhag gwasgaru slyri, mewn ymgais i rwystro carthion lifo i afonydd.
'Hanfodol'
Mae’n dweud bod hi’n rhy gynnar i weld a yw’r cynllun yna'n llwyddiant.
Er nad cyfrifoldeb llywodraeth Cymru ydi ariannu unrhyw brosiectau i uwchraddio systemau fe ddywedodd llefarydd eu bod yn cydnabod yr heriau.
“Mae gwella ansawdd dŵr yn hanfodol i wneud Cymru yn lle llewyrchus, hapus ac iach i fyw ac ymweld," meddai..
“Y mis diwethaf fe wnaethom lansio adolygiad eang ar y cyd gyda Defra mewn i bolisi a rheoleiddio yn y sector".