Newyddion S4C

Condemnio ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc o gwmpas ysbyty

07/11/2024
Ysbyty Llandudno

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc o gwmpas Ysbyty Cyffredinol Llandudno wedi ei gondemnio gan y bwrdd iechyd a'r heddlu.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r heddlu wedi cael eu galw i'r ysbyty "dro ar ôl tro" wedi i nyrsys gael eu cam-drin yn eiriol, a sawl achos o fandaliaeth.

Mewn un digwyddiad, bu'n rhaid galw'r gwasanaeth tân wedi i fatres gael ei rhoi ar dân yn fwriadol mewn ystafell storio. Yn ogystal, bu llifogydd y toiledau, ac mae rhywun wedi torri i mewn i swyddfa contractwr.

O ganlyniad, mae staff diogelwch wedi eu cyflogi, ac mae rheolwyr wedi cyfyngu ar fynediad i'r safle  trwy'r Uned Mân Anafiadau, lle mae criw o bobl ifanc wedi bod yn ymgynnull gyda'r nos. 

Yr wythnos diwethaf, cafodd nyrsys eu cam-drin yn eiriol gan bobl ifanc oedd yn loetran o amgylch yr uned. Ar y pryd, roedden nhw'n delio â chlaf a oedd yn ddifrifol wael ac yr oedd angen ei gludo ar frys mewn ambiwlans brys i'r safle acíwt.

Dywedodd Nichola Hughes, pennaeth gofal canolraddol a nyrsio arbenigol Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol BIPBC: "Nid oes lle i'r ymddygiad afresymol a gwrthgymdeithasol hwn unrhyw mewn ysbyty neu'n agos at ysbyty. 

"Mae ein staff yn ceisio gofalu am bobl, ac mae'n gwbl annerbyniol bod disgwyl iddynt oddef hyn. Mae eu swyddi'n ddigon anodd heb orfod gwrthsefyll cam-drin geiriol a difrod troseddol.

"Rwy'n annog ein cymuned i roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus y byddant yn ei weld o amgylch Ysbyty Llandudno ac i'n helpu i gadw ein cymuned yn ddiogel."

'Peryglu'

Mewn achos arall o ymddygiad afresymol, fe wnaeth un unigolyn ifanc dorri potel o win y tu allan i'r Uned Mân Anafiadau, gan dorri ei law yn y broses. Yna, fe wnaeth rwbio gwaed dros y ffenestri a'r waliau yn yr uned, gan wrthod triniaeth gan staff yn y lle cyntaf.

Ar wahân i'r risg i'r unigolyn ifanc, roedd yn golygu bod nyrsys a gweithwyr cymorth yn gorfod glanhau risg o haint ddifrifol, yn hytrach na delio â chleifion sâl a chleifion sydd wedi'u hanafu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i  geisio sicrhau bod staff yn ddiogel.

Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarthol Catherine Walker: "Dros y misoedd diwethaf, bu'n rhaid i'n heddweision fynd i'r ysbyty dro ar ôl tro er mwyn delio â digwyddiadau diangen, sydd nid yn unig yn peryglu cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol, ond sydd hefyd yn dargyfeirio ein hadnoddau oddi wrth feysydd eraill.

"Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod lle mae eu plant ac i roi ar ddeall iddynt nad yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol. Ni fyddwn yn goddef digwyddiadau o'r natur hon ac yn y dyfodol, byddwn yn delio â'r holl sefyllfaoedd o'r fath gan gymryd camau cadarn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.