Cymru’n paratoi at symud i gyfyngiadau Rhybudd Lefel 1
Gyda chyfyngiadau Covid-19 Cymru ar fin llacio dydd Sadwrn, mae cymunedau a busnesau ar draws y wlad yn paratoi ar gyfer y rheolau newydd sydd yn dod i rym.
Bydd y newidiadau’n dod i rym er gwaethaf ymlediad yr amrywiolyn Delta.
Yn Lloegr fe fydd y mwyafrif o gyfyngiadau’n cael eu codi yno ddydd Llun.
Felly beth yn union fydd yn newid yma yng Nghymru o ddydd Sadwrn ymlaen?
Cwrdd dan do: Mannau cyhoeddus a phreifat
Ar hyn o bryd dim ond tair aelwyd-estynedig sy’n cael cwrdd dan do yn breifat a hynny’n cynnwys mewn cartrefi.
Ond dydd Sadwrn bydd pobl ledled Cymru yn cael mwy o ryddid i gwrdd mewn anheddau yn ogystal â’n gyhoeddus.
Mewn cartrefi a llety gwyliau bydd hawl gan hyd at chwech o bobl gwrdd dan do.
O ran digwyddiadau torfol dan do, fe fydd hyd at 1,000 o bobl yn cael eistedd neu 200 o bobl yn cael sefyll gan gadw at fesurau rhesymol ac yn dilyn asesiadau risg priodol.
Gyda’r gwyliau haf ar y gorwel bydd hawl i hyd at 30 blant fynychu sefydliadau megis canolfannau preswyl yr Urdd neu’r Sgowtiaid.
Bydd canolfannau sglefrio ia yn cael eu hailagor hefyd.
‘Cam ymhellach’ y tu allan
Wrth drafod y rheolau sydd ar fin newid, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn bosib mynd “un cam ymhellach” wrth lacio cyfyngiadau Covid-19 yn yr awyr agored.
O ganlyniad fe fydd terfyniadau ar y nifer sy’n cael cwrdd y tu allan yn cael eu dileu gyda rheolau ar gadw pellter cymdeithasol hefyd yn cael eu llacio.
Daw’r penderfyniad yma yn dilyn tystiolaeth wyddonol sydd yn awgrymu bod y risg o drosglwyddo’r haint yn yr awyr agored yn llawer is nag ydyw dan do.
Beth nesaf?
Gyda chynlluniau i lacio cyfyngiadau ymhellach o ddydd Sadwrn 7 Awst, beth sydd i’w ddisgwyl petai Cymru mewn sefyllfa i symud o Lefel Rhybudd 1 i Lefel Rhybudd 0?
Yn ôl Mr Drakeford, fe fydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 0 “yn raddol” gyda’r gobaith y bydd newidiadau Lefel Rhybudd 1 yn galluogi llacio pellach ymhen tair wythnos.
Fodd bynnag ychwanegodd taw “cam cyntaf i lefel rhybudd sero” yw’r symudiad i gyfyngiadau Lefel 1 gyda’r gobaith o lacio cyfyngiadau dan do erbyn mis Awst.
Fe fydd hyn yn galluogi i bob busnes a phob safle i agor, gan gynnwys clybiau nos.
Er hynny, bydd rhai o’r rheolau rydym wedi arfer byw gyda nhw ag yn parhau i fod mewn grym am y cyfnod i ddod.
Bydd hyn yn cynnwys yr angen i barhau i wisgo mygydau mewn nifer o fannau cyhoeddus dan do gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â’r galw i weithio o adref pan yn bosib.