Newyddion S4C

Llywydd NFU Cymru yn galw am newidiadau i'r dreth etifeddu ar ffermydd

Llywydd NFU Cymru yn galw am newidiadau i'r dreth etifeddu ar ffermydd

Fe fydd Llywydd NFU Cymru yn rhybuddio Llywodraeth y DU fod rhaid iddyn nhw "wyrdroi eu diwygiadau treth cam-arweiniol" er mwyn amddiffyn ffermydd teuluol. 

Fe fydd Aled Jones  yn annerch ffermwyr a chynrychiolwyr y gadwyn fwyd yng Nghynhadledd NFU Cymru yn Llandrindod ym Mhowys ddydd Iau.

Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves yr wythnos diwethaf newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar ffermydd yn ei Chyllideb.

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn. 

Bydd yn rhaid talu'r dreth yma dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm yn uwch na £1m, er y gallai'r ffigwr yna fod yn £2m mewn achosion lle mae cwpwl yn gadael eu heiddo i blant neu blentyn.

Mae arbenigwyr treth wedi awgrymu y gallai’r newidiadau effeithio ar lai na 500 o ffermydd y flwyddyn.

'Bygythiad'

Mae disgwyl i Aled Jones ddweud nad oes "amheuaeth fod penderfyniad y Canghellor yr wythnos diwethaf i gyflwyno treth etifeddiaeth ar ein ffermydd teuluol i'r genhedlaeth nesaf yn mynd i adael nifer o ffermwyr heb y gallu, hyder na'r cymhelliant i fuddsoddi yn nyfodol eu busnes.

"Mae'r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi nid yn unig yn fygythiad i strwythur y fferm deuluol ond hefyd i ddiogelwch bwyd ein cenedl ni. Mae hyn yn dod gan y Llywodraeth a ddywedodd ychydig fisoedd yn ôl fod 'diogelwch bwyd yn ddiogelwch cenedlaethol'.

Mae NFU Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig sefydlogrwydd wrth iddyn nhw gyhoeddi eu cyllideb ddrafft. 

Bydd Mr Jones yn ychwanegu yn y gynhadledd ddydd Iau: "Tra bod cyllideb San Steffan wedi hawlio lot o'r sylw yr wythnos diwethaf, mae ein sylw ni hefyd ar y gyllideb ddrafft ym Mae Caerdydd ym mis Rhagfyr."



 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.