Newyddion S4C

Pryderon am 'oedi' wrth ymateb i gwynion am Neil Foden

06/11/2024
Foden / Sian Gwenllian

Mae yna bryderon am "oedi" yn yr ymateb i gwynion am y pedoffeil Neil Foden, yn ôl Aelod Senedd Arfon.

Wrth holi’r Ysgrifennydd dros Addysg, Lyn Neagle AS yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Sian Gwenllian fod rhieni a phobl ifanc wedi codi pryderon ynglŷn ag oedi mewn ymateb gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar ôl iddyn nhw gyfrannu i’r broses.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Roedd y gŵr 66 oed o Hen Golwyn wedi bod yn gweithio fel pennaeth yn Ysgol Friars, ym Mangor a Phennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, ym Mhenygroes.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol i’r achos ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r adolygiad, dan gadeiryddiaeth Jan Pickles, gael ei gynnal am dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

“Dwi di cael gwybod am bryderon gan etholwyr ynglŷn â’r broses gyfathrebu ar gyfer rhieni a phobol ifanc sy’n dymuno rhannu gwybodaeth efo bwrdd diogelu Gogledd Cymru fel rhan o’r adolygiad ymarfer plant,” meddai Siân Gwenllïan.

“Ydach chi’n hyderus bod bod yr ymateb yn briodol ac amserol i’r rhai sydd am ddarparu gwybodaeth neu am rannu pryderon?”

“Dwi’n parhau i gredu, fel mae nifer cynyddol o bobol, mai ymchwiliad cyhoeddus fydda’r ffordd orau a thecaf i ymdrin â’r sefyllfa yma, yn enwedig o ystyried honiadau pellach a ddatgelwyd mewn rhaglen deledu yn ddiweddar. 

“Gennych chi fel Llywodraeth mae’r grym i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus, newch chi wneud hynny os gwelwch yn dda?”

Wrth ymateb, dywedodd Lynn Neagle ei fod yn ymwybodol o’r pryderon dros ‘brydlondeb’ yr ymatebion, a bod modd i rieni a phobl ifanc rannu eu cyfraniadau’n uniongyrchol gyda’r bwrdd, yn hytrach na drwy ysgol neu awdurdod lleol.

Fe ychwanegodd: “Mae angen gadael i’r adolygiad ymarfer plant cyrraedd ei derfyn cyn inni ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen, gan gynnwys y posibilrwydd o ymchwiliad cyhoeddus.

“Fe wyddoch Siân fod ymholiadau cyhoeddus yn brosesau hirfaith, a fydd hefyd yn ymestyn y broses hon. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn i ni aros i weld beth mae’r adolygiad ymarfer plant yn ei adrodd, ac yna bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y camau nesaf.”

'Troseddwr rhyw gwaethaf'

Cafodd honiadau o’r newydd eu gwneud fis diwethaf yn y rhaglen BBC ‘My Headteacher the Paedophile’, oedd yn awgrymu y gallai fod Foden wedi bod yn cam-drin merched am dros 40 mlynedd.

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, hefyd ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd, yn dilyn beirniadaeth am ei ymateb i achos y pedoffeil Neil Foden.

Yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol ar gyfer Dyffryn Clwyd, bod Foden yn “un o’r troseddwyr rhyw gwaethaf yn hanes Cymru”, gan ychwanegu bod “rhestr hirfaith o fethiannau, esgeuluso a baneri coch wedi eu methu”.

Fe wnaeth holi a oedd broses y Llywodraeth o wirio cefndir penaethiaid ysgol yn ddigon trwyadl, a beth oedd yn cael ei wneud er mwyn osgoi “camgymeriadau” o’r fath eto yn y dyfodol.

Wrth ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg: “Mae hwn yn fater difrifol iawn. Mae troseddwr cyson wedi hedfan o dan y radar, ac mae’n rhaid inni gymryd hynny o ddifrif. 

“Yn amlwg, mae pob pennaeth yn destun gweithdrefnau llym iawn ynghylch diogelu, felly ni allai Llywodraeth Cymru, na hyd yn oed ar lefel y pwyllgor, erioed fod wedi gwybod ei fod y math yma o droseddwr.

“Ond gallwch fod yn sicr, Gareth, fy mod am wneud yn siŵr ein bod mor drylwyr â phosibl er mwyn cael cyfiawnder i’r bobl ifanc sydd wedi dioddef wrth law’r dyn yma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.