Caniatáu cynlluniau dadleuol i godi tai fforddiadwy mewn dau bentref ym Môn
Mae cynlluniau dadleuol i godi 57 o dai fforddiadwy mewn dau bentref ar Ynys Môn wedi eu caniatáu gan gynghorwyr yr ynys.
Bydd y cartrefi, fydd bron i gyd yn dai rhent, yn cael eu hadeiladu ar ran Cymdeithas Tai Clwyd Alyn ym mhentrefi Llanfairpwll a Llandegfan.
Ond roedd gwrthwynebiad lleol i'r ddau gynllun, gyda thrigolion lleol yn poeni am draffig, llifogydd, a'r effaith ar fywyd gwyllt.
Bydd 27 o'r tai yn cael eu hadeiladu ger ffordd yr A55 yn Llanfairpwll, yn agos i stad dai y Garnedd.
Dywedodd un o gynghorwyr Llanfairpwll, Dyfed Jones: "Rydan ni'n llawn ymwybodol o bwysigrwydd tai fforddiadwy.
"Ond mae'n rhaid i'r tai yma fod yn y lleoliad iawn. Dwi'n erfyn ar ddatblygwyr i edrych ar safleoedd eraill mwy addas yn y pentref."
Bydd y datblygiad arall, o 30 o dai, yn agos i stad dai Gwel y Llan yn Llandegfan. Roedd y cyngor cymuned wedi gwrthwynebu'r cais, yn bennaf oherwydd pryderon am draffig.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Alun Roberts fod yna "hollti barn clir a phendant" yn y pentref ynglŷn â'r datblygiad.
Wrth annerch y pwyllgor, dywedodd Sioned Edwards, ymgynghorydd cynllunio i'r ddau ddatblygiad: "Mae'r angen am dai fforddiadwy yng Nghymru yn argyfyngus, a dydi'r sefyllfa ddim gwahanol ym Môn."
Daw penderfyniadau'r cyngor ar y diwrnod y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ragor o fanylion am eu cynllun i sefydlu Tasglu Tai Fforddiadwy.
Mae'r llywodraeth wedi gosod targed o adeiladu 20,000 o dai rhent erbyn 2026.