Newyddion S4C

James Dean Bradfield yn canu yn y Gymraeg 'am y tro cyntaf'

08/11/2024
James Dean Bradfield yn canu yng Ngŵyl Lleisiau Eraill Ceredigion

Mae prif leisydd y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield wedi canu yn y Gymraeg 'am y tro cyntaf' a hynny mewn gŵyl gerddorol yng Ngheredigion.

Roedd yn perfformio yng Ngŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi y penwythnos diwethaf, gŵyl sydd yn dathlu'r cysylltiad rhwng Cymru ac Iwerddon.

Wrth berfformio set acwstig ar ei ben ei hun, fe ganodd fersiwn ddwyieithog o'r gân Ready for Drowning, un o ganeuon y Manics o'u halbwm This Is My Truth Tell Me Yours a gafodd ei rhyddhau yn 1998

Dywedodd trefnwyr yr ŵyl wrth Newyddion S4C mai dyma oedd y tro cyntaf iddo berfformio yn y Gymraeg yn gyhoeddus.

Fe allwch chi wylio James Dean Bradfield yn canu'r gân trwy fynd i 2:05:15 fan hyn.

Image
James Dean Bradfield
Cliciwch ar y llun er mwyn gwylio James Dean Bradfield yn canu 'Ready for Drowning' yn Gymraeg 
(Llun: YouTube/Gŵyl Lleisiau Eraill)

Wrth gyflwyno'r gân, dywedodd James Dean Bradfield: "Dyma gân sydd â rhai o fy hoff eiriau, gan Nicky Wire (gitarydd bas Manic Street Preachers). Enw hon yw Ready for Drowning."

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Tamsin Davies o Wŷl Lleisiau Eraill: "Mae gen i dal groen gŵydd (goosebumps) ar ôl James Dean Bradfield. Fe wnaeth e berfformio'n anhygoel, roedd yn bleser i wylio fe'n perfformio'n fyw.

"Mae iaith, cerddoriaeth a diwylliant yn gonglfeini Gŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi ac rydym yn dathlu'r cysylltiadau unigryw sydd yn bodoli rhwng Iwerddon a Chymru.

"Felly mae wedi bod yn wych clywed y Wyddeleg, yn ogystal â'r Gymraeg, yn cael eu siarad ar strydoedd Aberteifi."

Cafodd prif leisydd y Manics ei eni yn Nhredegar ym Mlaenau Gwent, a chafodd ei fagu yn y Coed Duon yn Sir Caerffili.

Bellach mae'n byw yng Nghaerdydd ac wedi rhyddhau sawl albwm ei hun, gan gyrraedd rhif 6 yn y siartiau.

Llun: Gŵyl Lleisiau Eraill 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.