Dyn yn cyfaddef lladd dyn arall yn Llandaf ond yn gwadu llofruddiaeth
Mae dyn wedi pledio'n euog i ddynladdiad dyn arall ar Noswyl Nadolig yn Llandaf y llynedd.
Ond mae Dylan Thomas, 24, wedi gwadu llofruddio William Bush, 23, a fu farw ar 24 Rhagfyr yng Nghaerdydd y llynedd.
Ymddangosodd Thomas drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, gan bledio yn euog i ddynladdiad.
Roedd eisoes wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Ond dydi'r erlyniad ddim yn derbyn ei ble, a felly bydd achos llys yn dechrau'r wythnos nesaf.
Dywedodd Gregory Bull KC: "Nid yw'r ple yna yn dderbyniol i'r goron, ac rydym ni'n gwneud cais am achos ar gyfer cyhuddiad un, sef llofruddiaeth."
Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, y bydd Thomas yn wynebu achos ddydd Mawrth nesaf yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe gafodd Mr Bush ei ddarganfod wedi ei anafu mewn eiddo ar Heol y Capel am tua 11:30 ar Noswyl Nadolig.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn "ffyddlon, doniol a gofalgar" gan ei deulu.