Cyhuddo dau ddyn o Gymru o smyglo pobl
Bydd achos llys yn erbyn dau ddyn o Gaerffili sydd wedi eu cyhuddo o smyglo pobl yn dechrau'r wythnos nesaf.
Mae Dilshad Shamo, 41 oed, ac Ali Khdir, 42 wedi eu cyhuddo o drefnu symud pobl o Irac, Iran a Syria i'r DU, gan ddefnyddio cychod, loriau, a cheir.
Mae nhw'n gwadu pum cyhuddiad o gynllwynio i dorri rheolau mewnfudo yn yr Eidal, Romania, Croatia, a'r Almaen, wrth ddod a phobl i mewn i wlad yn yr Undeb Ewropeaidd.
Honnir i'r troseddau ddigwydd rhwng Medi 2022 ac Ebrill 2023.
Wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, siaradodd y dynion ddwy waith yn unig, i gadarnhau eu henwau ac i bledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke y byddai'r achos yn erbyn y dynion yn dechrau ddydd Llun. Cafodd Shamo a Khdir eu cadw yn y ddalfa.