‘Pryder ac ofn’ am gynnydd recriwtio cymdeithion meddygol
‘Pryder ac ofn’ am gynnydd recriwtio cymdeithion meddygol
Mae ymchwiliad gan ITV Cymru wedi darganfod bod y nifer o bobl sy’n cael eu recriwtio fel cymdeithion meddygol (physician associates) mewn gofal eilaidd gan y GIG wedi cynyddu dros 200% o fewn y tair blynedd diwethaf.
Yn ôl BMA Cymru, sy’n cynrychioli miloedd o ddoctoriaid, mae eu haelodau wedi adrodd sefyllfaoedd lle maen nhw wedi bod yn dyst i beryglu diogelwch cleifion.
Mae cymdeithion meddygol yn weithwyr gofal iechyd cyffredinol sydd wedi derbyn hyfforddiant meddygol, sy’n gweithio ochr wrth ochr gyda doctoriaid ac "yn rhan annatod o dîm sy’n darparu gofal iechyd", meddai GIG Cymru.
Ond, mae’r BMA yn dweud bod cleifion sy’n mynd i ysbytai yn ansicr os ydynt yn siarad â doctoriaid cymwys wrth geisio cael cyngor meddygol neu ddiagnosis, ac yn dweud y gall y dryswch arwain at ofal anghywir i gleifion.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymraeg y BMA, Dr Iona Collins wrth ITV Cymru: “Y broblem yw fod pobl sydd wedi graddio o amrywiaeth o gyrsiau gwahanol o dan yr argraff eu bod nhw’n cael eu ffast-tracio i fod yn gysylltiedig â doctoriaid.
“Yn syml, dydy’r ddwy flynedd o hyfforddiant iddyn nhw ddim yr un peth â hyfforddiant i ddoctor. Dydyn nhw ddim yn gymdeithion i ddoctoriaid, maen nhw’n gynorthwyon i ddoctoriaid.”
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan ITV Cymru wedi datgelu bod 105 o gymdeithion meddygol wedi’u recriwtio dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer gofal eilaidd ledled byrddau iechyd Cymru.
Cyfanswm y bobl yn y swydd yw 156. Mae hynny’n cynrychioli cynnydd o 207% o leiaf. Does dim modd bod yn sicr o’r ffigwr yn union gan nad oes gwybodaeth am y nifer o gymdeithion meddygol wnaeth adael y GIG Gymraeg yn ystod y cyfnod.
Mae’r cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod 67% o’r holl gymdeithion meddygol yng Nghymru wedi cael eu cyflogi dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan gymdeithion meddygol rôl bwysig i chwarae yn y GIG yng Nghymru, ond eu swydd yw cefnogi doctoriaid, nid cymryd eu lle.
“Er y gall y rôl yma gael ei gwneud yn annibynnol, dylen nhw wastad weithio o dan oruchwyliaeth meddyg profiadol.”
'Cam-adnabod'
Yn ogystal, dywedodd Dr Collins ei bod hi wedi clywed sôn am ddigwyddiadau lle’r oedd cleifion wedi profi oedi cyn gweld meddyg ar ôl i staff ysbytai gam-adnabod cymdeithion meddygol fel doctoriaid.
Mae doctoriaid eisoes wedi adrodd am sefyllfaoedd i’r BMA yng Nghymru lle oedd cymdeithion meddygol wedi rhoi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau ac wedi gorchymyn pelydriadau-X heb gymeradwyaeth doctor, sy’n anghyfreithlon.
“Dwi eisiau pwysleisio dydy hyn ddim am y bobl,” meddai Dr Collins wrth ITV Cymru, “Mae hyn am y rôl ei hun.”
O Ragfyr eleni, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol am ddechrau rheoleiddio Gweithwyr Proffesiynol Meddygol, sef term ymbarél mae cymdeithion meddygol yn disgyn iddo. Mae’r BMA yn dweud bod hyn am greu dryswch pellach.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod grŵp wedi’i sefydlu gan gyflogwyr GIG Cymru, sy’n cynnwys y BMA, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Tasg y grŵp ydy datblygu fframwaith diogel ac effeithiol ar gyfer trefn cymdeithion meddygol yng Nghymru.