Newyddion S4C

'Anodd i'w gredu': Yr ymateb i fuddugoliaeth Trump

06/11/2024
Donald Trump

Mae Syr Keir Starmer wedi llongyfarch Donald Trump ar ei fuddugoliaeth yn etholiad arlywyddol America.

Dywedodd Prif Weinidog y DU y byddai'r "berthynas arbennig" rhwng y Deyrnas Unedig ac America yn "parhau i ffynnu.. am flynyddoedd i ddod."

Y gred oedd y byddai hi yn ras agos ond erbyn oriau man y bore roedd yna ddarogan mai'r Gweriniaethwyr fyddai yn mynd a hi.

Yn ôl y newyddiadurwraig Maxine Hughes, sy'n byw yn yr Unol Daleithiau mae'r canlyniad yn un sydd am hollti barn.

"Mae o’n edrych fel bod Donald Trump wedi llwyddo i ennill yr etholiad, ac wedi gwneud rhywbeth ‘da ni erioed wedi gweld yn hanes America o’r blaen.

“Mae wedi ennill, wedi llwyddo i fynd yn ôl i’r Tŷ Gwyn."

'Stori anodd i gredu'

“Wrth gwrs mae hanner America’n teimlo’n hapus iawn a’r hanner arall yn drist iawn."

Mae'r canlyniad meddai yn un annisgwyl.

“Dw i'n siŵr bod llawer iawn o bobl yn deffro yng Nghymru a'n meddwl - sut mae Donald Trump wedi llwyddo i wneud hyn?

“Mae yn stori ‘da ni erioed wedi gweld o’r blaen - stori sydd yn anodd iawn i’w gredu rili, ond Donald Trump sydd wedi ennill.”

Fe bleidleisiodd Rhys Morris, sydd yn byw yn California y tro yma o blaid Kamala Harris er ei fod yn 2020 wedi pleidleisio dros Trump.

"Oedd America yn barod i roi menyw a rhywun o liw i mewn a'r ateb oedd na," meddai wrth y BBC. 

"A dwi'n meddwl be ddigwyddodd heddiw oedd ath mwy o bobl allan i fotio ar gyfer y Republicans a llai ar gyfer y Democrats. Os ti yn edrych ar y map o America mae 'na lot, lot mwy o Goch na Glas." 

'Codi ar ei draed'

Mae'n credu mai'r economi oedd y ffactor bwysicaf yn yr etholiad gyda phobl yn poeni am gostau byw. Fe lwyddodd Trump meddai i gael y dosbarth gweithiol i'w gefnogi.

"Mae'r Republicans wan di dod yn fwy o working class na'r Democrats sydd ddim yn neud llawer o synnwyr."

Un wnaeth bleidleisio o blaid Trump am y tro cyntaf yw Dulais Rhys. Roedd o'n teimlo bod y llywodraeth flaenorol wedi bod yn wan.

"Dwi'n credu roedd y dyn yma wedi cael cam o ran yr holl achosion llys yn ei erbyn e, cyd-ddigwyddiad bod hyn yn digwydd yn ystod blwyddyn yr etholiad," meddai wrth siarad gyda'r BBC.

"Mae'r dyn wedi gwrthsefyll ymosodiad ar ei fywyd ac wedi codi ar ei draed yn hytrach na lawr i gwato. Felly dwi'n credu bod e'n gryfach person nag unrhyw arlywydd diweddar." 

Bydd rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o America gyda'r holl ymateb mewn rhaglen estynedig nos Fercher am 19:30.

Llun: Donald Trump (Wochit)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.