Newyddion S4C

Pryder i Gymru ar ôl i Kieffer Moore adael y cae gydag anaf

06/11/2024
Kieffer Moore yn gadael y cae gydag anaf wrth chwarae i'w glwb Sheffield United

Mae'n gyfnod pryderus i Craig Bellamy a Chymru ar ôl i Kieffer Moore orfod gadael y cae gydag anaf wrth chwarae gyda ei dîm, Sheffield United nos Fawrth.

Bu rhaid i'r ymosodwr gamu oddi ar y cae wedi 69 munud oherwydd anaf i groth y goes (calf).

Dywedodd rheolwr Sheffield United, Chris Wilder bydd y clwb yn asesu Moore dros y dau ddiwrnod nesaf.

“Mae e wedi anafu croth y goes, felly ‘da ni ddim yn gallu trin hwnna ar hyn o bryd ond byddwn yn ei asesu dros y 24, 48 awr nesaf.

“Ond dyw e ddim yn edrych yn dda ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu gwadu hynny.”

Mae Kieffer Moore wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ ar 16 ac 19 Tachwedd.

Mae wedi sgorio dwy gôl i'w glwb y tymor hwn ac mae Sheffield United yn ail yn y Bencampwriaeth.

Llun: Nick Potts/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.