Achos o ffliw adar ar ffarm yng ngogledd Lloegr
Mae achos o ffliw adar wedi cael ei ddarganfod ar ffarm yng ngogledd Lloegr.
Mewn datganiad dywedodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (Defra) nos Fawrth bod yr achos wedi ei ddarganfod yn Nwyrain Riding yn Sir Efrog.
Ychwanegodd Defra y bydd yr adar heintiedig yn cael eu difa mewn ffordd ddiogel ar y safle.
Maen nhw hefyd wedi gosod ardal diogelu o 3km ac ardal gwyliadwriaeth hyd at 10km o gwmpas y ffarm.
Yn yr achos hwn mae straen H5N5 o'r feirws yn bresennol yn yr adar sydd wedi cael eu heffeithio.
Mae'r firws hwn - sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt - wedi bod o gwmpas ers canrif. Mae fel arfer yn ymddangos yn yr hydref ac yn diflannu yn y gwanwyn a'r haf.
Mae'n lledaenu trwy faw adar a phoer, neu trwy ddŵr halogedig.
Bellach mae Defra wedi codi y risg o gael ffliw adra mewn adar gwyllt o ganolig i uwch.
Maen nhw'n gofyn i ffermwyr i gymryd camau i amddiffyn eu hadar rhag y feirws.