Newyddion S4C

Donald Trump yn ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau

06/11/2024
Donald Trump yn rhoi araith wedi iddo hawlio buddugoliaeth yn etholiad arlywyddol America

Donald Trump fydd Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau wedi iddo basio’r trothwy o 270 o bleidleisiau etholiadol.

Daeth cadarnhad fod yr ymgeisydd dros y Gweriniaethwyr wedi ennill ail dymor fel Arlywydd, gyda'r cyhoeddiad ei fod wedi sicrhau'r bleidlais yn nhalaith Wisconsin yn golygu ei fod wedi croesi'r trothwy angenrheidiol o bleidleisiau etholiadol.

Roedd Donald Trump eisoes wedi hawlio'r fuddugoliaeth ar ôl llwyddo i ennill yn erbyn ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd, yr Is-Arlywydd Kamala Harris, mewn sawl un o'r taleithiau allweddol eraill, gan gynnwys Pennsylvania, Georgia a North Carolina.

Fe fydd cael ei urddo fel Arlywydd fis Ionawr, ar ddiwedd cyfnod yr Arlywydd presennol, Joe Biden. 

Wrth siarad o flaen torf o gefnogwyr yn Florida, dywedodd Donald Trump fod ei ymgyrch wedi "creu hanes" a'i fod yn "mynd i helpu'r wlad i wella".

"Mae'n amlwg rŵan ein bod ni wedi cyflawni'r peth gwleidyddol mwyaf anhygoel," meddai. "Edrychwch beth ddigwyddodd - mae'n wallgo’.

"Hoffwn i ddiolch i bobl yr Unol Daleithiau am y fraint o gael fy ethol yn Arlywydd rhif 47 - a 45."

Am 06.00 amser Cymru roedd y New York Times yn dweud fod ganddo siawns uwch ‘na 95% o ennill yn erbyn yr Is-Arlywydd Kamala Harris.

Roedd Donald Trump eisoes wedi ennill taleithiau North Carolina a hefyd Georgia, lle y daeth yn ail i Joe Biden yn 2020.

Roedd hefyd ar y blaen yn Michigan a Wisconsin, dwy dalaith ymylol yr oedd angen i Kamala Harris eu hennill.

‘Parhau i frwydro’

Er mawr obaith i'r Democratiaid ar drothwy'r etholiad, fe lwyddodd Trump i ennill ym mhob un o'r saith talaith ymylol rheini, a oedd yn ddigon i sicrhau "mandad pwerus a digynsail" iddo ef.

Ni wnaeth Kamala Harris annerch y cyhoedd nos Fawrth ond fe ymddangosodd cyd-gadeirydd ei hymgyrch, Cedric Richmond.

Fe siaradodd o flaen ei chefnogwyr ym Mhrifysgol Howard yn Washington D.C wrth i’r gorsafoedd pleidleisio olaf gau.

Dywedodd Cedric Richmond bryd hynny, gyda rhai taleithiau dal i gyfri pleidleisiau, nad oedden nhw wedi anobeithio yn llwyr.

“Mae gennym ni bleidleisiau i’w cyfri' o hyd,” meddai.  “Mae gennym ni daleithiau sydd heb eu galw eto.

“Byddwn yn parhau i frwydro dros nos i wneud yn siŵr bod pob pleidlais yn cael eu cyfri', bod pob llais yn cael ei glywed.

“Felly ni fyddwch yn clywed gan yr Is-Arlywydd heno ond byddwch yn clywed ganddi yfory.”

Bydd rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o America gyda'r holl ymateb mewn rhaglen estynedig nos Fercher am 19:30.

Llun: Donald Trump (AFP/Wochit)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.