Guto Harri wedi ei wahardd o sianel GB News ar ôl 'cymryd y ben-glin'

Guto Harri
Mae'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd Guto Harri wedi ei wahardd rhag ymddangos ar sianel GB News, ar ôl iddo 'gymryd y ben-glin', yn ôl adroddiad yn The Mirror.
Fe aeth y cyflwynydd ar ei ben-glin yn fyw ar raglen yr oedd yn ei gyflwyno ar y sianel, a hynny i ddangos ei gefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr am wneud yr un safiad i wrthsefyll hiliaeth.
Yn ôl The Mirror, fe wnaeth GB News dderbyn beirniadaeth gan wylwyr yn dilyn y digwyddiad, ac o ganlyniad mae Mr Harri wedi ei wahardd am y tro.
Darllenwch y stori'n llawn yma.