'Hanner pobol Cymru yn poeni am fforddio biliau dŵr uwch'
Mae bron i hanner o bobol yng Nghymru yn dweud y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd talu biliau dŵr uwch, yn ôl adroddiad.
Mae'r adroddiad newydd gan Gyngor y Defnyddwyr Dŵr yn awgrymu bod 48% o bobol yng Nghymru yn poeni am fforddio biliau dŵr uwch.
Daw'r adroddiad ar ôl i'r rheoleiddiwr Ofwat gyhoeddi cynlluniau i gynyddu biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru £137 dros gyfnod o bum mlynedd.
Gyda'r cynnydd blynyddol o £19 ar gyfartaledd, y bwriad yw buddsoddi mewn meysydd sydd angen gwelliannau fel hen bibau sy'n gollwng.
Er mai Ofwat sy’n gosod yr uchafswm, cwmnïau sy’n penderfynu ar y gost derfynol, felly bydd yr union gynnydd yn amrywio o ardal i ardal.
Mae Dŵr Cymru yn darparu dŵr ar gyfer y mwyafrif o gwsmeriaid Cymru, gyda chwmni Hafren Dyfrdwy yn gwasanaethu nifer llawer yn llai.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn bwriadu "buddsoddi £13 miliwn y flwyddyn" yn eu tariffau cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.
Mae Hafren Dyfrdwy yn dweud eu bod yn "ymrwymo’n llwyr i gadw biliau’n isel ac yn fforddiadwy".
'Angen dŵr fforddiadwy i bawb'
Roedd Cyngor y Defnyddwyr Dŵr wedi holi 9,500 o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Awst a mis Medi.
Yn ôl yr adroddiad, mae dau o bob pum aelwyd ar draws Cymru a Lloegr yn dweud y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd fforddio’r cynnydd i filiau dŵr.
Ar y cyfan dywedodd 40% o bobol y byddent yn ei chael hi’n anodd fforddio newidiadau arfaethedig i’w bil - ond cynyddodd y ffigwr i 48% yng Nghymru.
Yn ôl Mike Keil, Prif Weithredwr Cyngor y Defnyddwyr Dŵr, mae angen un tariff cymdeithasol ar draws Cymru a Lloegr.
"Byddai’r cynnydd hwn mewn biliau yn rhoi straen annioddefol ar gyllid miliynau o gartrefi," meddai.
"A dim ond un tariff cymdeithasol all ddarparu’r rhwyd ddiogelwch sydd ei angen i sicrhau bod dŵr yn fforddiadwy i bawb."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Water UK eu bod "angen buddsoddi ar frys" yn y seilwaith dŵr a charthffosiaeth.
"Fel y mae'r ymchwil hwn yn dangos, mae cefnogaeth eang gan y cyhoedd i’r buddsoddiad hwnnw gyda 75% yn cefnogi cynigion arloesol cwmnïau dŵr i gefnogi twf economaidd, adeiladu mwy o gartrefi, sicrhau ein cyflenwadau dŵr a rhoi diwedd ar garthffosiaeth sy’n mynd i mewn i’n hafonydd a’n moroedd," meddai.
"Fodd bynnag, rydyn ni’n deall nad oes croeso byth i filiau cynyddol. Er mwyn amddiffyn cwsmeriaid sy’n agored i niwed, mae cwmnïau wedi cynnig cynyddu nifer y cartrefi sy’n cael cymorth gyda’u biliau i dair miliwn dros y pum mlynedd nesaf."
'Cymorth ar gael i gwsmeriaid'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn "gweithio'n galed" i gael cydbwysedd rhwng diogelu'r amgylchedd a chadw biliau yn fforddiadwy.
"Ein cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf yw i fuddsoddi £4bn, gyda £2.5bn o'r swm hwnnw i wella'r amgylchedd," meddai.
"Er y bydd angen i filiau cwsmeriaid gynyddu i gefnogi'r lefel o fuddsoddiad yma, fel cwmni nid-er-elw, mae pob ceiniog o filiau cwsmeriaid yn mynd tuag at gynnal a gwella ein gwasanaethau a defnyddir unrhyw arian sydd dros ben i gyflymu buddsoddiad."
Ychwanegodd Dŵr Cymru eu bod yn cefnogi 145,000 o gwsmeriaid – tua 10% – sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol drwy ddarparu biliau dŵr gostyngedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Hafren Dyfrdwy eu bod wedi "ymrwymo’n llwyr i gadw biliau’n isel ac yn fforddiadwy".
"Bil Hafren Dyfrdwy yw’r isaf yng Nghymru a’r ail isaf yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn parhau felly," meddai.
"Nid ydym am i unrhyw un boeni am sut maent yn talu eu bil, felly mae gennym amrywiaeth o gymorth ar gael gan gynnwys ein cynllun Here2Help, lle gallai cwsmeriaid gael hyd at 70% oddi ar eu bil cartref."
Bydd Ofwat yn gwneud penderfyniad terfynol ar gynnydd mewn biliau ar 19 Rhagfyr.