Newyddion S4C

Ceredigion: Pleidleisio yn erbyn cau chweched dosbarth mewn chwe ysgol

05/11/2024
Penweddig / Bro Pedr

Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi pleidleisio yn erbyn dod ag addysg chweched dosbarth i ben mewn chwe ysgol yn y sir.

Y llynedd, fe wnaeth yr awdurdod gomisiynu adroddiad i ddyfodol addysg ôl-16 yn y sir yn sgil pryderon dros ariannu addysg chweched dosbarth.

Mae chwe ysgol yn y sir ble mae yna chweched dosbarth, sef Aberteifi, Bro Teifi, Aberaeron, Bro Pedr, Penweddig a Phenglais.

Yn ôl yr adroddiad gan John Hayes a gyflwynwyd i’r Cyngor, mi fyddai cynnal addysg ôl-16 yn yr ysgolion yn cynnig “her gyllidol barhaus” oherwydd y niferoedd isel o ddysgwyr ôl-16 mewn pump allan o’r chwech chweched dosbarth yn y sir.

Mae cyngor hefyd yn rhagweld y bydd y niferoedd o ddysgwyr ôl-16 mewn ysgolion yn cyrraedd ei uchafbwynt yn 2027, cyn “gostyngiad cyson” hyd at 2043. Bydd hyn yn golygu toriadau pellach i gyllidebau ysgolion sy’n darparu addysg chweched dosbarth.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Eifion Evans, bod ysgolion y sir wedi gorfod tynnu arian oddi ar gyllidebau cyfnodau allweddol tri a phedwar yn y gorffennol, er mwyn ariannu adrannau chweched dosbarth.

Ariannu 'annigonnol'

Dywedodd Mr Evans: “Beth y chi’n gorfod derbyn fel cynghorwyr yw bod yr arian chi’n rhoi tuag at addysg yng Ngheredigion mond yn mynd lan hyd at 16 oed.

“Mae ariannu’r chweched dosbarth yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. A heb os ac oni bai, mae’r isadeiledd addysg sydd gyda ni ar hyn o bryd, mae’r arian sy’n dod o Lywodraeth Cymru i gynnal y chweched dosbarth ym mhob un o’r unedau yna, yn annigonol."

Fe aeth Mr Evans ymlaen i grybwyll y penderfyniad “anodd, emosiynol iawn” i gau chweched dosbarth yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

“Dwi’n hapus i ddweud ar gofnod bod y penderfyniad yna wedi gweddnewid safonau addysg Tregaron. 

"Wi’n ymfalchïo yn y ffaith bod canlyniadau TGAU a chanlyniadau addysg yn gyffredinol yn Ysgol Henry Richard gyda’r gorau sydd ganddyn ni, os nad ambell waith y gorau sydd ganddyn ni yn y sir."

'Gofid'

Yn y cyfarfod, roedd gan gynghorwyr ddau opsiwn i’w hystyried. Un opsiwn sef opsiwn dau oedd i ddatblygu’r sefyllfa bresennol gan annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion a chynnig fwy o brofiadau addysgol hybrid a digidol. Opsiwn arall oedd i gau’r chwe adran chweched dosbarth er mwyn sefydlu un Canolfan Rhagoriaeth yn y sir, ar un neu fwy o safleoedd.

Dywedodd Elen James, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ceredigion bod penaethiaid y chwe ysgol dan sylw yn “awyddus” i gefnogi yr opsiwn o gydweithio rhwng ysgolion.

"Ni yn colli ein pobl ifanc ôl-16 allan o’r sir, sydd wir yn ofid achos yn aml iawn ‘dy’n nhw ddim yn dod nôl i’r sir. Ac felly mi fydden ni yn awyddus iawn i fedru cael y trafodaethau ‘na gyda’r penaethiaid yn weddol fuan ynglŷn â’r cyd-gynllunio.”

Fe wnaeth y cynghorwyr bleidleisio’n unfrydol o blaid opsiwn dau ac edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r sefyllfa bresennol.

Fel ail argymhelliad, fe bleidleisiwyd o blaid hefyd parhau gyda gwaith ymchwil ynglŷn â’r posibilrwydd o sefydlu un neu fwy o Ganolfannau Rhagoriaeth yn y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid ydym yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol.  

"Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am drefnu addysg yn eu hardaloedd nhw, ac am reoli eu cyllidebau eu hunain.

“Mae Medr bellach yn ariannu’r holl ddarpariaeth ôl-16, sydd ar yr un lefel ym mhob man mae’n cael ei ddarparu.”

Llun: Ysgol Penweddig ac Ysgol Bro Pedr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.