Newyddion S4C

Peipiau wedi blocio yn ôl ymchwiliad damwain trên ger Llanbrynmair

Damwain trên Llanbrynmair

Mae ymchwiliad wedi darganfod bod system sydd yn helpu olwynion i allu aros ar y cledrau ddim wedi gweithio gydag un o'r trenau pan wnaeth dau drên daro ei gilydd ger Llanbrynmair.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar 21 Hydref.

Yn ôl Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) roedd y pibellau ar y trên sydd yn rhyddhau tywod ar y cledrau wedi blocio.

Roedd y trên yn teithio ar gyflymder o rhwng 15-24mya pan y gwnaeth wrthdaro gyda thrên Trafnidiaeth Cymru arall oedd yn teithio ar gyflymder o 6mya. 

Bu farw David Tudor Evans, 66, ac fe gafodd pedwar arall eu hanafu yn ddifrifol. 

Roedd y trên gyda'r system tywod a oedd wedi methu yn teithio i'r gorllewin i gyfeiriad Aberystwyth. 

Roedd y trên i fod stopio oddi mewn i lŵp er mwyn galluogi trên oedd yn teithio i'r dwyrain i basio ar y trac sengl. 

Mae dadansoddiad cychwynnol o'r cofnodwr data ar y trên yn dangos fod y gyrrwr wedi brecio wrth i'r trên agosáu at yr ardal yma, ond fod yr olwynion wedi dechrau llithro. 

Tua 40 eiliad yn ddiweddarach, fe wnaeth y gyrrwr frecio ar frys, gan wneud hynny tan y gwrthdrawiad. 

Fe basiodd y trên trwy'r lŵp gan ail-ymuno â'r trac sengl, cyn llithro am tua 900 metr i lawr yr allt cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd. 

Dywedodd ffrind teulu agos i Mr Evans, a oedd eisiau aros yn ddienw: "Mae'r adroddiad yn eithaf clir fod yna fethiannau wedi digwydd gyda'r systemau, ac mae hyn yn bryderus iawn. 

"Yn sgil datgelu'r wybodaeth gychwynnol yma, dwi'n galw am ymchwiliad cwbl annibynnol, o bosib ymchwiliad cyhoeddus, sy'n edrych ar bob agwedd o'r ymchwiliad a beth aeth o'i le."

Wrth siarad am Mr Evans, dywedodd ei ffrind: "Roedd yn ddyn hyfryd, yn llawn bywyd. 

"Roedd yn seiclwr brwd, a gyda diddordeb mawr mewn chwaraeon, ac roedd bellach wedi ymddeol."

Fe fydd angladd Mr Evans yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn yn Aberystwyth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.