Dan James yn dychwelyd i garfan Cymru i wynebu Twrci a Gwlad yr Iâ
Mae Dan James wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar y tro cyntaf ers i Craig Bellamy ddod yn rheolwr Cymru.
Mae'r asgellwr ar gyfer Leeds United yn un o'r 26 chwaraewr fydd yn rhan o'r garfan i wynebu Twrci a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Dyw Dan James ddim wedi chwarae dros Gymru yn y misoedd diwethaf oherwydd anaf.
Yn ogystal mae Rubin Colwill a Tom King wedi dychwelyd i'r garfan.
Fydd Aaron Ramsey ag Ethan Ampadu ddim yn y garfan oherwydd anafiadau.
Fe allai Joe Rodon ennill cap rhif 50 dros ei wlad pe bai yn chwarae yn y ddwy gêm.
Bydd Cymru yn wynebu Twrci oddi cartref ar 16 Tachwedd. Fe fyddan nhw wedyn yn gorffen eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Pe bai Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn un o dimau Cynghrair A mewn dwy gêm ail-gyfle i geisio ennill dyrchafiad i Gynghrair A.
Ar hyn o bryd Twrci sydd ar y brig gyda 10 pwynt a Chymru yn ail ar wyth pwynt. Bydd angen i Wlad yr Iâ, sydd yn y trydydd safle ennill eu dwy gêm olaf er mwyn codi i'r ail safle.
Dyma garfan llawn Cymru:
Danny Ward, Karl Darlow, Tom King, Rhys Norrington-Davies, Owen Beck, Ben Davies, Ben Cabango, Joe Rodon, Chris Mepham, Connor Roberts, Neco Williams, Jordan James, Rubin Colwill, Josh Sheehan, Joe Allen, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Sorba Thomas, Wes Burns, Brennan Johnson, Kieffer Moore, Mark Harris, Nathan Broadhead, Lewis Koumas, Liam Cullen.
Llun: Asiantaeth Huw Evans