Newyddion S4C

Harry Wilson yn sgorio ddwywaith i Fulham i ennill y gêm

05/11/2024
harry wilson.png

Fe sgoriodd Harry Wilson ddwywaith ar ôl dod oddi ar y fainc i sicrhau bod Fulham yn curo Brentford o 2-1 nos Lun. 

Wedi 92 munud o chwarae, llwyddodd ymosodwr Cymru i sgorio er mwyn gwneud y gêm yn gyfartal. 

Pum munud yn ddiweddarach, sgoriodd unwaith eto gan roi Fulham ar y blaen gydag eiliadau i fynd. 

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod bellach yn y nawfed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr, gyda'u gwrthwynebwyr yng ngorllewin Llundain, Brentford, yn 12fed.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Wilson: "Roedd yn deimlad anhygoel i ddod ymlaen a sgorio'r ddwy gôl sydd wedi ennill y gêm i ni.

"Drwy gydol y gêm, ro'n i'n teimlo mai dyma oeddem ni'n haeddu."

Ychwanegodd rheolwr Fulham, Marco Silva: "Mae wedi bod yn dymor anodd iddo (Wilson) o ran munudau ar y cae i Fulham. Mae wedi bod yn anhygoel i'r tîm cenedlaethol.

"Heno, llwyddodd i'n helpu ni ac mae'n haeddu'r foment yma a dwi'n gobeithio bod llawer mwy i ddod ganddo."

Fe fydd Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan ddydd Mawrth ar gyfer gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.