Syr Chris Hoy yn annog dynion i gael eu sgrinio am ganser y prostad yn iau
Mae Syr Chris Hoy yn annog mwy o ddynion i gael eu sgrinio am ganser y prostad yn iau wedi iddo dderbyn diagnosis o ganser terfynol yn gynharach eleni.
Fe ddatgelodd Syr Chris, 48, ym mis Hydref fod ganddo ganser terfynol.
Ychwanegodd fod doctoriaid wedi dweud fod ganddo rhwng dwy a phedair blynedd i fyw.
Cafodd ddiagnosis o ganser fis Chwefror eleni ond nid oedd y math o ganser wedi ei ddatgelu bryd hynny.
Mae'n gobeithio y bydd ei blatfform yn perswadio mwy o ddynion i gymryd y prawf antigen arferol sydd yn benodol ar gyfer y prostad (PSA).
Mae ei daid a'i dad wedi derbyn diagnosis o ganser y prostad, gydag un ymhob wyth o ddynion yn wynebu'r diagnosis yn eu bywyd.
Yn ei gyfweliad teledu cyntaf ers ei ddiagnosis, dywedodd: "Os oes gennych chi hanes teuluol fel sydd gen i, os ydych chi'n hŷn na 45, gofynnwch i'ch doctor.
"Daliwch y canser cyn eich bod chi angen triniaeth fawr. I mi, mae'n teimlo fel no-brainer. Lleihau'r oedran, caniatáu i fwy o ddynion i fynd i gael prawf gwaed."
Dweud wrth y plant
Wedi i sgan ddatgelu tiwmor, ychwanegodd Syr Chris mai "dyma oedd sioc fwyaf ei fywyd."
Mae gan Syr Chris a'i wraig Sarra ddau o blant, Callum a Chloe, sydd yn naw a chwech oed, ac roedd meddwl am ddatgelu'r newyddion iddyn nhw yn boen meddwl mawr iddo.
"Dyna oedd y prif beth oeddwn i'n feddwl amdano - sut y byddwn i'n dweud wrth y plant?," meddai.
"Rydym ni wedi ceisio bod yn bositif ac wedi ceisio egluro iddynt sut y mae modd helpu pan nad ydw i'n teimlo'n dda."
'Yr adeg tywyllaf'
Ychwanegodd mai cemotherapi "oedd un o'r heriau mwyaf dwi erioed wedi ei wynebu".
Fe ddatgelodd Syr Chris Hoy ddiwedd Hydref fod ei wraig Sarra wedi cadw ei diagnosis o sglerosis ymledol (MS) yn gyfrinach wrth iddo ddelio â'i driniaeth canser y brostad.
"Mae cryfder Sarra yn anghredadwy, fe gadwodd hi ei diagnosis yn gyfrinach," meddai.
"Dyma oedd yr adeg tywyllaf dwi'n meddwl. Dyma oedd yr adeg pan ddechreuais i feddwl 'beth sy'n mynd ymlaen?' Ro'n i bron yn teimlo fel dweud oce, stop, mae hyn yn freuddwyd, dydy hyn ddim yn wir, mae'n hunllef.
"Rydych chi'n poeni am eich teulu. Doeddem ni ddim yn meddwl y byddem ni yn y sefyllfa hon flwyddyn yn ôl. Dyna oedd y cyfnod anoddaf heb amheuaeth, diagnosis Sarra."
'Diolchgar am bob dydd'
Mae persbectif Syr Chris ar fywyd wedi newid ers ei ddiagnosis.
"Dwi'n gwybod beth fydd y canlyniad terfynol. Does yna neb yn byw am byth. Peidiwch gwastraffu eich amser yn poeni am bethau sydd ddim yn bwysig. Canolbwyntiwch ar y pethau sy'n bwysig, teulu, y bobl yn eich bywyd," meddai.
"Mae fy mhersbectif ar fywyd wedi newid yn fawr. Dwi'n fwy diolchgar, yn fwy diolchgar am bob dydd. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd, ac fe fydd hi'n anodd yn y dyfodol hefyd, ond ar hyn o bryd, rydym ni'n delio efo pethau yn eithaf da."