Diwedd cyfnod wrth i Amgueddfa Lechi Cymru cau am gyfnod o ddwy flynedd
Diwedd cyfnod wrth i Amgueddfa Lechi Cymru cau am gyfnod o ddwy flynedd
Mae wedi siapio ein tirlun a ffurfio cymunedau ar draws Gwynedd.
# Hogia Cymru #
Ar eu hanterth, roedd llechi o Gymru yn mynd i bedwar ban byd. Mae'r chwareli wedi tawelu ond mae'r hanes dal yn fyw.
Amgueddfa Lechi Cymru yw un lle sy'n adrodd yr hen straeon.
Bydd y caffi yn cael ei ddymchwel ac yn ei le, bydd adeilad dau lawr ac ar y llawr top, bydd canolfan addysg newydd sbon.
Ond am ddwy flynedd, bydd hi ar gau i'w ailddatblygu a'i atgyweirio.
"Mae'n 25 mlynedd ers i ni gael buddsoddiad sylweddol. Mae'r adeiladau yma ers 1870 a pethau'n dangos eu hoed.
"Mae'n bwysig ofnadwy i'r gymuned a phwysigrwydd rhyngwladol i'r stori. Mae llechi a sgiliau pobl wedi cael ei hallforio ar draws y byd ac mae angen deud y stori."
Mae'r amgueddfa wrth droed Chwarel Dinorwig. Un o chwe ardal llechi yng Ngwynedd ar restr safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO dair blynedd yn ôl.
Mae'r statws yn nodi pwysigrwydd y diwydiant ar lefel byd-eang.
Mae'r amgueddfa yn denu 150,000 o ymwelwyr pob blwyddyn. Ar ôl gorffen y gwaith, denu mwy yn enwedig tu allan i'r haf yw'r nod.
Mae pryderon am yr effaith yn lleol o golli'r atyniad am gyfnod mor hir.
"Bydd effaith ar y busnes. Trwy gau am ddau Basg a ddau haf, bydd teuluoedd ddim yn dod yma. Mae pawb sy'n aros a'r teuluoedd yn defnyddio'r amgueddfa a'r trên.
"Bydd colli fo yn cael effaith ar y busnes."
Mae busnesau eraill yn poeni am golli'r amgueddfa am gyfnod mor hir. Bwriad y cynllun ydy adnewyddu'r adeiladau ar restr Gradd Un nodedig.
Bydd canolfan addysg newydd a man chwarae, siop a chaffi. Bydd y ffordd o rannu straeon yr amgueddfa yn newid hefyd.
Un o'r prif atyniadau yw'r cyfle i weld chwarelwyr wrth eu crefft.
Andrew yw'r chweched genhedlaeth o'i deulu i weithio yn y chwareli.
"Fi 'di bod yn lwcus iawn i gael y cyfle i ymuno a'r amgueddfa dangos y sgiliau a chael hwyl efo pobl o dros y byd.
"Mae'n bwysig iawn iddo barhau. Os ydym yn colli'r chwareli, ni'n colli gwaith a'r gymuned hefyd.
"Heb y gymuned, bydd pawb yn symud a bydd y lle yn newid yn llwyr."
Y nod yw ailagor yr amgueddfa ym mis Hydref 2026. Ond bydd rhai o'r arddangosfeydd yn teithio o amgylch Cymru i gadw'r hen straeon yn fyw.