Newyddion S4C

Cadeirlan Bangor yn ymddangos ar stampiau Nadolig y Post Brenhinol

05/11/2024
Stamp Cadeirlan Bangor

Bydd delwedd o Gadeirlan Bangor yn ymddangos ar stampiau Nadolig arbennig y Post Brenhinol eleni.

Ynghyd â Chaeredin, Armagh a San Steffan, fe fydd Cadeirlan Bangor yn un o bedwar i gael eu cynnwys ar y stampiau eleni.

Bydd y stampiau ar gael i'w prynu o ddydd Mawrth ac mae modd prynu pecyn o'r pedwar ar wefan y Post Brenhinol.

Cafodd y stampiau eu darlunio gan yr artist Judy Joel.

Dywedodd Esgob Enlli, y Gwir Parchedig David Morris, bod gweld y gadeirlan ar y stampiau yn arwyddocaol wrth ddathlu pen-blwydd y gadeirlan yn 1500 mlynedd.

“Rydym yn falch iawn bod y Post Brenhinol wedi dewis Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer casgliad stampiau’r Nadolig," meddai.

"Mae wir yn ddyluniad hyfryd ac rwy’n edrych ymlaen at gael fy ngherdyn Nadolig cyntaf gyda stamp Cadeirlan Bangor y Post Brenhinol arno.

“Mae’n arwyddocaol iawn i ni wrth i ni baratoi i ddathlu 1500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor a sefydlu’r Gadeirlan a’r Ddinas a welwn heddiw. 

"Rydym yn gobeithio y bydd y stamp yn annog pobl i ymweld â’r Gadeirlan yn ystod ein dathliadau Nadolig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.