Newyddion S4C

Calon 'yn torri': Ymateb Amy Dowden wrth adael Strictly

05/11/2024
Amy Dowden / BBC

Mae Amy Dowden wedi dweud bod ei chalon 'yn torri' ar ôl y cyhoeddiad na fydd hi'n cystadlu yng ngweddill cyfres Strictly Come Dancing eleni.

Mae ganddi anaf i'w throed a fydd hi ddim yn dawnsio gyda'i phartner JB Gill am weddill y gyfres, meddai llefarydd ar ran y sioe.

Fe aeth hi i'r ysbyty mewn ambiwlans yn ystod rhaglen y sioe'r penwythnos diwethaf ar ôl dechrau teimlo'n sâl.

Roedd y ddawnswraig 34 oed o Gaerffili wedi dychwelyd i'r sioe ar BBC One eleni ar ôl derbyn triniaeth am ganser y fron.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd: "Mae fy nghalon yn torri ar hyn o bryd. Dros y misoedd diwethaf, dwi o'r diwedd wedi teimlo fel fi fy hun eto. Nid canser oedd y peth cyntaf yr oeddwn i'n meddwl amdano ar ôl deffro. 

"Fy nod ers cael gwybod fy mod gen i ganser oedd gwneud fy ffordd yn ôl i Strictly. Mae hi wedi bod yn gymaint o her i wneud hynny, ac fe wnes i dreulio 2024 yn ceisio gwireddu'r her.

"Gyda fy nhîm anhygoel, llwyddais i wneud hynny."

Ychwanegodd: "Dwi mor drist, ac yn gofyn pam fi, pan fod ein taith wedi gorfod dod i ben yn fuan.

"Mae fy nghalon yn torri wrth orfod methu gweddill y gyfres yn sgil anaf troed, a dwi'n gwybod y bydd 'pethau yn gwella' ac fe fyddaf i yn dychwelyd i ddawnsio yn fuan. 

"Dwi'n gobeithio un diwrnod y byddaf yn gallu dawnsio eto gyda JB."

Dywedodd llefarydd ar ran Strictly: “Yn anffodus, ni fydd Amy Dowden yn cymryd rhan yng ngweddill y gystadleuaeth eleni.

“Tra bod Amy’n canolbwyntio ar wella yn dilyn anaf i’w throed, bydd ei chyd-ddawnsiwr proffesiynol Lauren Oakley yn camu i mewn fel partner dawns JB.

“Iechyd a lles pawb sy’n ymwneud â Strictly yw’r flaenoriaeth bob amser. 

"Mae teulu cyfan Strictly yn anfon cariad a dymuniadau da at Amy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.