Penderfyniad yng Nghymru 'cyn gynted a bod modd' wedi i Loegr godi ffioedd dysgu
Penderfyniad yng Nghymru 'cyn gynted a bod modd' wedi i Loegr godi ffioedd dysgu
Fe fydd penderfyniad ynglŷn â ffioedd dysgu mewn prifysgolion yng Nghymru yn cael ei wneud 'cyn gynted a bod modd' yn dilyn penderfyniad i godi ffioedd yn Lloegr.
Daeth cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Addysg Bridget Phillipson ddydd Llun y byddai ffioedd yn Lloegr yn codi o £9,250 y flwyddyn i £9,535 yn 2025/26.
Dyma’r tro cyntaf ers wyth mlynedd i’r ffioedd gynyddu.
Dywedodd Ms Phillipson bod y penderfyniad wedi ei wneud yn sgil yr “heriau ariannol sylweddol” mae prifysgolion yn eu hwynebu.
“Gyda ffioedd dysgu wedi eu rhewi, mae prifysgolion yn wynebu toriad mewn incwm mewn termau real.”
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn “ystyried goblygiadau’r penderfyniad” cyn penderfynu ar y ffioedd i fyfyrwyr ar gyfer 2025/26.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn cydnabod bod prifysgolion Cymru dan bwysau ariannol sylweddol ac rydym yn ystyried goblygiadau’r penderfyniad hwn i Gymru.
“Byddwn yn cadarnhau’r cap ffioedd a’r pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 cyn gynted â phosibl.”
Wrth gyhoeddi’r newidiadau ddydd Llun, dywedodd Ms Phillipson eu bod yn gwneud y penderfyniad yr oedd y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi “eu hosgoi”.
Wrth ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Cysgodol ar gyfer y Ceidwadwyr, Laura Trott, y byddai myfyrwyr yn “dioddef” yn sgil y penderfyniad, “ar adeg pan nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r cynnydd.”