Newyddion S4C

Cyn-isbostfeistr aeth i'r carchar ar gam yn galw am dalu iawndal sgandal Swyddfa'r Post ar frys

Newyddion S4C 04/11/2024

Cyn-isbostfeistr aeth i'r carchar ar gam yn galw am dalu iawndal sgandal Swyddfa'r Post ar frys

Mae cyn-isbostfeistr o Wynedd wedi apelio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod yr iawndal yn cael ei dalu i bob is-bostfeistr gafodd eu heffeithio gan sgandal system gyfrifiadurol Horizon cyn gynted â phosib.

Aeth Dewi Lewis i’r carchar am bedair mis yn 2011 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa’r Post.

Ddiwrnod cyn i Mr Lewis rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Busnes Tŷ'r Cyffredin mae'r cyn is-bostfeistr ym Mhenryndeudraeth yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod y taliadau yn cael eu gwneud ar frys.

“Ma' rhai teuluoedd dal yn dioddef a’r apêl ydy i’r llywodraeth rŵan neud yn siŵr bod nhw’n cael y taliadau allan i bawb mor fuan â phosib, er mwyn i bawb symud ymlaen efo’u bywydau mor fuan â phosib. Mae hynny’n apêl go iawn," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Gobeithio y bydd 'na wersi mawr yn cael eu dysgu, ond ma' rywun yn bryderus bod yr Ysgrifennydd Iechyd isho digideiddio popeth a bod gwybodaeth meddygaeth pawb yn mynd i fod yn nwylo’r cyfrifiadur. 

"Gobeithio na fyddan nhw’n neud yr run un camgymeriadau eto.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "cydnabod i Bostfeistri sydd wedi gorfod dioddef caledi neu hyd yn oed amser carchar fel Mr Lewis" ac na fyddai "unrhyw swm o iawndal byth yn ddigon, a’u bod wedi aros yn rhy hir i gael iawndal."

“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino ar draws y llywodraeth i ddod â Mr Lewis ac eraill sydd wedi cael euogfarnau Horizon wedi’u gwrthdroi gydag iawndal llawn, teg a chyflym," meddwn nhw.

Yn ôl Llywodraeth y DU mae tua £363 miliwn wedi’i dalu i dros 2,900 o bobl ar draws pedwar cynllun hyd yma.

'Dioddef yn enbyd'

Ychwanegodd Mr Lewis ei fod yn croesawu cyhoeddiad y canghellor yr wythnos hon o £1.8bn i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan sgandal Swyddfa'r Post.

Ond dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r broses nawr yn symud yn gynt ac y bydd na amserlen i dalu pawb cyn gynted â phosib.

“Mae llawer iawn ohonyn nhw’n hŷn na fi ac mae 'na deuluoedd wedi dioddef yn enbyd”, meddai.

Mae Dewi Lewis wedi bod yn disgwyl yr iawndal ers mis Awst ac ar ôl “tipyn o gwyno gan gyfreithwyr ac aelodau seneddol” dywedodd bod y taliad cyntaf bellach wedi cyrraedd ei gyfrif banc.

'Dal yn gorfod brwydro'

Dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ni ddylai fod Dewi Lewis yn gorfod brwydro i gael yr iawndal.

“Mae Dewi Lewis wedi dioddef gymaint. Pam felly bod rhaid iddo fe frwydro i gael yr arian sy’n ddyledus iddo?

“O un llywodraeth i’r llall, ar ôl y Gyllideb, dal yn gorfod brwydro.

“Mi ddylai fe fod yn glir ac yn syml i’r is-bostfeistri sydd wedi dioddef - faint o arian maen nhw’n eu cael, yr hyn maen nhw’n ei orfod gwneud i gael o, a bod 'na ddim byd yn cael ei golli ar hyd y ffordd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.