Dros 50% o gynnydd yn y nifer o blismyn sydd wedi cael y sac
Mae cynnydd o dros 50% wedi bod yn nifer y plismyn yng Nghymru sydd wedi cael eu diswyddo a'u gwahardd rhag dychwelyd i'w swydd yn y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd 29 o swyddogion eu sacio gan heddluoedd Gogledd Cymru, De Cymru, Dyfed-Powys a Gwent yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, meddai'r Coleg Plismona.
Mae'r ffigyrau yn golygu 10 yn fwy o heddweision o gymharu gyda'r flwyddyn 2022/23, sydd yn cyfateb i gynnydd o 53%.
Dywedodd Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru ei fod wedi gorfod diswyddo heddweision ei hun am gam-ddefnyddio eu pwerau yn y llu.
“Does dim lle yn yr heddlu i gasineb tuag at fenywod, hiliaeth nag unrhyw fath o ymddygiad gwahaniaethol arall...
"Rwyf yn gwybod bod mwyafrif y swyddogion a staff sydd yn gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn rhagorol ac yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r cyhoedd.”
Mae uchel swyddogion Heddlu'r Gogledd a Gwent yn cytuno bod rhaid cael gwared a phlismyn sydd yn camymddwyn yn eu swyddi.
"Mae’r ffigyrau yma’n dangos ein bod wedi diswyddo mwy o swyddogion y llynedd nac mewn blynyddoedd blaenorol sy’n brawf o’r ffordd gadarn rydym yn mynd ati i ymdrin â’r heriau diwylliannol mae plismona yn ei wynebu," meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gwent, Nicky Brain.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ymdrin â phob math o ddrwgweithredu yn unol â’r fframwaith statudol perthnasol, canllawiau cenedlaethol, a pholisi lleol yr Heddlu.
"Mae'r heddlu yn disgwyl y safonau uchaf gan ei holl swyddogion a staff, ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch at droseddoldeb neu gamymddwyn. Mae hyn yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth a hyder yn y gwasanaeth."
Roedd cynnydd o 50% ar draws y Deyrnas Unedig, gyda 593 o ddiswyddiadau'r flwyddyn hon, sydd yn sylweddol fwy na'r 394 y flwyddyn gynt.