Milwr o Gymru wedi ei 'lorio gan farwolaeth ffrind' cyn lladd ei hun
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn trafod hunanladdiad.
Mae cwest wedi clywed fod milwr o'r Rhondda a wnaeth ladd ei hun yng nghanolfan Catterick wedi cael ei lorio gan farwolaeth ffrind chwe mis yn gynharach.
Fe gafodd Nicki Hart, 33, oedd yn aelod o bedwerydd Bataliwn Catrawd Frenhinol Yr Alban, ei ddarganfod yng nghanolfan y Fyddin yng Ngogledd Sir Efrog ym mis Chwefror 2022.
Roedd yn dad i dri o blant ac yn dod yn wreiddiol o Bentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Roedd ganddo hanes o frwydro â'i iechyd meddwl ac fe fynegodd ei deulu bryder am ei ddefnydd o alcohol.
Clywodd cwest ei fod wedi bod yn yfed yn drwm wedi marwolaeth ei ffrind, Ryan Mackenzie, yn y ganolfan ym mis Awst 2021.
Dywedodd y cyn-filwr David Twiname wrth y cwest: "Roedd yr effaith ar Nicki yn anferth."
Ychwanegodd fod Mr Hart wedi defnyddio alcohol i ddygymod â'r golled ac y byddai'n prynu cwrw a gwin o siop leol ac yn ei yfed yn ei lety.
Dywedodd Mr Twiname ei fod wedi penderfynu cadw cwmni i Mr Hart gan ei fod yn pryderu am iechyd meddwl ei ffrind.
Disgrifiodd sut y gwnaeth Mr Hart ddangos diagram iddo oedd yn amlinellu mai ei fwriad oedd lladd ei hun, ond ei fod angen gweithio o gwmpas y rhwystrau, sef ei ffrindiau.
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad ei fod wedi crogi ei hun.
Mae Adroddiad Ymholiad Gwasanaeth wedi darganfod fod yna "gyfleoedd a gafodd eu colli" yn y gofal a gafodd Mr Hart cyn iddo farw.
Mae'r cwest yn parhau.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.