Newyddion S4C

Carcharu cyn-blismon Heddlu Gwent am gam-drin plentyn yn rhywiol

04/11/2024
John Stringer

Mae cyn-blismon gyda llu Heddlu Gwent wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar ar ôl i reithgor ei gael yn euog o gam-drin plentyn yn rhywiol.

Roedd John Stringer, 43 oed o Gaerdydd, wedi pledio'n ddieuog i bum chyhuddiad yn ymwneud â merch dan 13 oed.

Ond penderfynodd y rheithgor fis Medi ei fod yn euog o'r holl gyhuddiadau.

Fe gafwyd Stringer yn euog o ddau gyhuddiad o gam-drin rhywiol drwy gyffwrdd ac un cyhuddiad o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. 

Fe'i gafwyd hefyd yn euog o gyhuddiad pellach o achosi neu gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol ac un cyhuddiad o achosi plentyn i wylio gweithred rhywiol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough fod Stringer wedi ei ddiswyddo o wasanaeth Heddlu Gwent yn sgil ei "weithredoedd ffiaidd".

"Mae fy meddyliau yn mynd allan i'r dioddefwr yn yr achos hwn sydd wedi dangos dewrder aruthrol yn dod ymlaen ac yn adrodd. Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn rhoi ymdeimlad o gyfiawnder iddynt ac yn eu helpu yn y broses o symud ymlaen â'u bywydau," meddai.

"Nid yn unig mae Stringer wedi torri llw plismon, ond mae hefyd wedi bradychu ei gydweithwyr a’r gymuned yr oedd i fod i’w gwasanaethu."

Ychwanegodd: "Rwy’n gwybod y bydd yr achos hwn yn effeithio ar yr hyder y mae dioddefwyr ymosodiad rhywiol yn ei deimlo wrth ddod ymlaen i adrodd i ni.

"Fe wnaeth Stringer i’w ddioddefwr deimlo na fyddai hi’n cael ei chredu, tacteg gyffredin i gyflawnwyr cam-drin rhywiol, ond rydym yn gobeithio bod canlyniad yr achos hwn yn dangos y bydd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol yn cael ei gymryd o ddifrif.

"Nid oes lle yn ein sefydliad na’n cymdeithas i gyflawnwyr cam-drin rhywiol."

Cefndir

Roedd yr achos llys ym mis Medi wedi para wythnos ac yn canolbwyntio ar dystiolaeth dioddefwr benywaidd ifanc, a oedd o dan 13 oed adeg y troseddau.

Dywedodd y dioddefwr - na ellir ei henwi o achos ei hoedran - wrth yr heddlu fod Mr Stringer wedi rhoi blanced drosti tra’r oedd hi’n chwarae gemau fideo cyn cyffwrdd â hi'n amhriodol.

Dywedodd hefyd wrth swyddogion sut, ar achlysur arall, roedd y diffynnydd wedi dangos fideo iddi o fenyw hŷn yn cyflawni gweithred rywiol, cyn dweud wrthi am actio'r hyn a welodd.

Aeth ymlaen i ddisgrifio sut oedd Stringer wedi gofyn iddi beth oedd hi wedi’i ddysgu mewn dosbarthiadau Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, ac mai “ei bai hi” fyddai pe bai ei rhieni’n cael gwybod beth oedd wedi digwydd ac y byddai'n mynd i drafferth.

Roedd ei ymddygiad yn gwneud iddi deimlo’n “anghyfforddus iawn”, meddai wrth swyddogion.

Clywodd y llys fod yr honiadau’n ymwneud â’r cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Gorffennaf 2021.

Dangoswyd fideo i'r llys o'r ferch yn cael ei chroesholi. Yn y fideo dywedodd ei bod yn “sicr” bod y cyffwrdd wedi digwydd.

Clywodd y rheithgor hefyd fod nifer o archwiliadau dros y we wedi eu darganfod ar ffôn John Stringer, gan gynnwys sawl un yn ymwneud â gweithred rywiol benodol ac yn cynnwys y geiriau "young" a "voyeur".

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Stringer ei fod yn "hollol ddigalon" o gael ei arestio, ar ôl i’r ferch ddweud wrth Gynorthwyydd Dysgu yn ei hysgol am yr honiadau.

Cyfaddefodd y plismon fod y plentyn yn ymwelydd cyson â’i gartref dros y cyfnod dan sylw, ond dywedodd nad oedd erioed wedi bod gyda hi ar ei ben ei hun.

Cyfaddefodd iddo wneud cannoedd o archwiliadau ar y we am bornograffi, ond gwadodd fod ganddo ddiddordeb mewn merched ifanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.