Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
04/11/2024
Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Gwener.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ffordd un cerbyd a ddigwyddodd am tua 23:15 ar yr A40 i'r gorllewin o gylchfan Pont Canaston.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur Honda coch a gwyn.
Bu farw'r person oedd ar y beic modur yn yr ysbyty ychydig yn ddiweddarach.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20241101-443.