Cân i Gymru wedi torri rheolau Ofcom meddai'r rheoleiddiwr
Cân i Gymru wedi torri rheolau Ofcom meddai'r rheoleiddiwr
Roedd sioe Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi ar S4C wedi torri rheolau darlledu Ofcom, meddai’r rheoleiddiwr.
Mae'r rheoleiddiwr wedi canfod bod y pleidleisio “wedi'i gynnal yn annheg” a'i fod “yn sylweddol gamarweiniol” a hynny oherwydd nam technegol.
Wrth i’r gân 'Ti' gan Sara Davies gipio gwobr Cân i Gymru 2024 ar 1 Mawrth, mynegodd nifer fawr o bobol eu rhwystredigaeth ar X (Twitter gynt) a Facebook am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.
Dywedodd Ofcom mai 10 o bobl oedd wedi cwyno wrthyn nhw.
Meddai'r rheoleiddiwr wrth gyhoeddi eu penderfyniad ddydd Llun: “Oherwydd nam technegol gyda’r system bleidleisio a ddefnyddiwyd yn ystod cystadleuaeth flynyddol S4C, pleidleisiodd rhai gwylwyr sawl gwaith, gan na chadarnhawyd eu pleidleisiau ffôn yn ystod eu galwadau i’w cofrestru.
“O ganlyniad, roedd Ofcom o’r farn bod y bleidlais ddarlledu wedi’i chynnal yn annheg a’i bod yn sylweddol gamarweiniol, gan dorri Rheolau 2.13 a 2.14.
“At hynny, codwyd cyfradd premiwm o 25c ar gyfer pob galwad, ond ni wnaethpwyd costau mynediad yn glir i wylwyr, gan dorri Rheol 9.30.”
Dywedodd y rheoleiddiwr bod y sioe wedi torri y rheolau canlynol:
- Rhaid cynnal cystadlaethau darlledu a phleidleisio yn deg.
- Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain yn sylweddol ynghylch unrhyw gystadleuaeth ddarlledu neu bleidleisio.
- Rhaid gwneud y gost i wylwyr am ddefnyddio gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn rhai daearyddol yn glir iddynt a’u darlledu fel y bo’n briodol.
'Hyderus'
Mewn datganiad dywedodd S4C: “Rydym yn derbyn penderfyniad Ofcom heddiw.
“Rydym eisoes wedi sefydlu cynllun i ad-dalu gwylwyr am gostau pleidleisio ychwanegol, ac wedi ymrwymo i gymryd camau i osgoi problemau tebyg i’r dyfodol.
“Rydym yn hyderus bod canlyniad y gystadleuaeth yn ddilys, ac yn edrych ymlaen at gynnal Cân i Gymru 2025 ar 28 Chwefror.”
Dywedodd S4C wrth Ofcom eu bod nhw wedi ail-gyfrif y pleidleisiau ar sail 'un alwad, un bleidlais' a bod y "canlyniad yr un fath ag a gyhoeddwyd yn fyw ar y teledu ar y noson”.
Er mwyn pleidleisio, roedd angen ffonio rhif 0900 sy’n codi pris fesul munud.
Ymddiheurodd S4C yn fuan wedi diwedd y rhaglen i'r rhai a fethodd â bwrw eu pleidlais.
Bythefnos ar ôl y gystadleuaeth, cadarnhaodd y sianel ar eu gwefan fod modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf.