Etholiad UDA: Cystadlu brwd yn Pennsylvania ar drothwy diwrnod hanesyddol
Etholiad UDA: Cystadlu brwd yn Pennsylvania ar drothwy diwrnod hanesyddol
Dros yr wythnos nesa’ bydd tim rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o America wrth i’r etholiad ddigwydd. Dyma argraffiadau prif ohebydd y rhaglen, Gwyn Loader, wrth gyrraedd talaith dyngedfennol Pennsylvania.
“Kamala! Kamala!”
Dyma’r floedd sy’n ein cyfarch wrth groesi’r ffin o Ohio i dalaith Pennsylvania.
Ar ymyl hewl brysur Route 422, mae degau o gefnogwyr Kamala Harris yn chwifio posteri a phlacardiau lliwgar yn annog y rhai sydd yn pasio i fwrw pleidlais dros y Democratiaid yn yr etholiad arlywyddol.
Yn ôl Juliann Magino, mae’r Democratiaid yn gryf ar yr economi, ac mae angen croesawu mewnfudwyr i’r wlad. Ar ben hynny, dyw Donald Trump “ddim yn addas i fod Arlywydd” yn ei barn hi.
“Dyw e ddim yn bleidiol i’r bobl” meddai hi, ac “mae ei iaith a’i eirfa yn gwbl anaddas i Arlywydd.”
Yr ochr draw i’r briffordd, mae Gregory Zeitler yn eistedd ar ei beiriant torri gwair. Mae e’n byw mewn carafan symudol ar y tir gerllaw. Gwawdio’r ymgyrchwyr mae e.
“Dw’i ddim yn credu bod Kamala Harris yn gallu rhedeg y wlad," meddai. "Roedd hi’n gyfrifol am y ffiniau ac fe wnaeth hi fethu a gwneud ei swydd.”
“Maen nhw (y Democratiaid) wedi bod mewn grym ers pedair blynedd. Mae (Kamala Harris) nawr yn dweud bydd hi’n trwsio’r pethau mae wedi cael pedair blynedd i’w trwsio!”
Ac mae’n amddiffyn Donald Trump a’i eirfa bigog, gan ddweud bod angen caledu - “ry’n ni i gyd yn oedolion. Does dim angen i bopeth fod yn sugar-coated.”
Wrth grwydro drwy’r dalaith, mae’n amlwg bod cefnogaeth frwd i’r ddau brif ymgeisydd. Mae posteri Kamala Harris a Donald Trump yn aml wedi eu gosod ochr yn ochr â’i gilydd tu fas i gartrefi ac ar ymyl ffyrdd.
Mae’n debygol y bydd Pennsylvania yn dyngedfennol o ran canlyniad yr etholiad. System coleg etholiadol sydd gan yr Unol Daleithiau, a phob talaith â nifer penodol o bleidleisiau etholaethol sydd yn cyfateb yn fras â’u poblogaeth.
Yn y rhan fwyaf o daleithiau, mae’r canlyniad bron yn sicr, ond mewn saith talaith, mae pethau yn y fantol.
Yn ôl arolygon barn, trwch blewyn sydd rhwng Donald Trump a Kamala Harris yn Pennsylvania, Michigan, Wisconsin, Arizona, Nevada, Georgia a Gogledd Carolina.
O ran y taleithiau rhanedig yma - y “swing states”, Pennsylvania sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn y coleg etholiadol. Mae 19 pleidlais i’w hennill wrth gipio’r dalaith hon, a’r tebygrwydd yw mai pwy bynnag sydd yn ennill yma fydd arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau.
Mae’r dalaith yn feicrocosm o’r wlad gyfan; dinasoedd mawr fel Pittsburgh a Philadelphia sydd yn gadarnleoedd i’r Democratiaid, ac ardaloedd gwledig eang lle mae’r gefnogaeth i’r Gweriniaethwyr yn gryf.
Ger Bakerstown, Butler County, yr ardal lle cafodd Donald Trump ei saethu ar 13 Gorffennaf eleni, mae Zeke a Joy Snyder yn gwerthu nwyddau Donald Trump o sied ar ochr y ffordd.
Yn Weriniaethwyr pybyr, maen nhw’n mynnu mai Comiwnydd yw Kamala Harris. Eu hofn nhw yw y byddai yr economi yn dioddef dan ei llaw hi.
Fel dyn busnes, mae ganddyn nhw ffydd yn Donald Trump i ddod â llewyrch economaidd i’r Unol Daleithiau.
A dy’n nhw ddim yn poeni am iaith ac ymddygiad dadleuol y cyn-arlywydd. Yn wir, maen nhw’n dweud bod yna gynllwynio bwriadol i’w bardduo gan y Democratiaid.
Mae Zeke yn hyderus mai Trump fydd yn fuddugol.
“Fe yw’r dyn perffaith ar gyfer y swydd," meddai. "Mae e bendant yn mynd i ennill.
“Mae e’n ddyn busnes, mae’n gwbod beth mae’n ei wneud. Does dim syniad gyda’r ochr arall beth sydd yn mynd ymlaen.”
'Poeni am y wlad a'r byd'
Ond yn y ddinas, mae agweddau yn dra gwahanol.
Ym mar Gene’s Place, Pittsburgh, ry’n ni’n cwrdd â chriw bach o bobl sydd yn dysgu Cymraeg.
Kamala Harris a’r Democratiaid sydd yn boblogaidd ymysg y criw yma. Ac maen nhw’n poeni am yr oblygiadau posib petai Donald Trump yn dod yn arlywydd unwaith eto.
“Dwi’n poeni am Donald Trump… Dwi’n poeni am y wlad a’r byd [os yw e’n ennill].”
“Dwi’n poeni am y gyfraith a’r cyfansoddiad,” meddai Jessica Skye Davies.
Ac mae Haydn Thomas yn ofni y gallai’r cyn-arlywydd greu trafferth hyd yn oed os nad yw e’n ennill. Mae e’n ofni na fydd y Gweriniaethwyr yn derbyn canlyniad yr etholiad.
“Mae ofn arna’ i beth fydd yn digwydd os bydd Trump yn colli," meddai.
“Dyw Trump ddim yn mynd i ddweud ‘dw i wedi colli’ achos dyw e ddim yn gallu dweud hynny.”
Pryder Haydn yw y gallai rhai cefnogwyr ymateb yn fygythiol, neu yn dreisgar, mewn adlais o’r ymosodiad ar adeilad y Capitol ar ôl buddugoliaeth Joe Biden bedair blynedd yn ôl.
Mae’r ymgyrch etholiadol yma wedi bod yn gofiadwy a digynsail, gyda dau ymgais aflwyddiannus i saethu Donald Trump, newid ymgeisydd gan y Democratiaid wrth i Joe Biden gamu i’r neilltu a honiadau rhyfeddol (heb dystiolaeth i’w cefnogi) am fewnfudwyr yn bwyta anifeiliaid anwes gan y cyn-arlywydd Trump.
Ddydd Mawrth, wedi’r holl ddrama, bydd y blychau pleidleisio yn cau.
Pwy bynnag ddaw’n fuddugol, fe fydd y dasg o uno gwlad ranedig, yn un anodd.
Bydd rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o Washington DC a Pennsylvania drwy gydol yr wythnos am 19:30 ar S4C.