Y cynhyrchydd cerddoriaeth Quincy Jones wedi marw
Mae Quincy Jones, y cynhyrchydd a chyfansoddwr cerddoriaeth, wedi marw yn 91 oed.
Roedd Jones wedi gweithio gyda nifer o sêr gan gynnwys Michael Jackson, Frank Sinatra a Ray Charles.
Ef oedd yn gyfrifol am gynhyrchu albwm hanesyddol Thriller Jackson yn 1982.
Fe gadarnhaodd ei gyhoeddwr, Arnold Robinson, fod Jones wedi marw yn ei gartref yn Los Angeles ddydd Sul.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Heno, gyda chalonnau llawn ond wedi eu torri, rhaid i ni rannu’r newyddion am farwolaeth ein tad a’n brawd Quincy Jones.
"Ac er bod hon yn golled anhygoel i’n teulu, rydyn ni’n dathlu’r bywyd gwych yr oedd yn ei fyw ac yn gwybod na fydd un arall tebyg iddo," medden nhw.
Yn ystod ei yrfa 75 mlynedd, fe enillodd Jones 28 o wobrau Grammy.
Fe gafodd ei enwi yn un o gerddorion jazz mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif gan gylchgrawn Time.
Llun: FADEL / AFP